Tonig i’r galon!

Yn ogystal â helpu i gynllunio a chreu ein jin pen blwydd Waun Las, mae Jin Gŵyr a Cheers Wine Merchants wedi cyfrannu £500 o werthiant eu Rým Organig Môr-ladron at waith ymchwil pwysig i beillwyr. 

Mae gwenyn mêl a pheillwyr gwyllt yn hanfodol i’n galluogi i beillio cnydau sy’n ein cadw’n iach, ond mae poblogaethau peillwyr yn lleihau ledled y byd. 

Mae ffactorau rhyngweithiol, sef colli cynefinoedd, dulliau amaethyddol mwy dwys, plâu, afiechyd a newid yn yr hinsawdd, yn cyfrannu at y gostyngiadau hyn. Mae cacwn, gwenyn mêl, gwenyn unig a phryfed hofran yn hanfodol i lesiant byd-eang. Mae’r dirywiad cyflym mewn pryfed peillio yn peri pryder mawr. 

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ymgymryd ag ymchwil a fydd yn helpu o ran deall y rhesymau dros y colledion hyn o ran peillwyr, ac yn darparu canllawiau cadwraeth a fydd yn manylu ar wybodaeth am ofynion cynefinoedd a dewisiadau chwilota pryfed peillio. 

Bydd ein hymchwil yn rhoi atebion i gwestiynau megis: “Pa blanhigion yw’r gorau ar gyfer denu peillwyr i’n gerddi?” 

Abigail Lowe, ymchwilydd PhD a Swyddog Gwyddoniaeth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – Priodoliadau: Aled Llywelyn

Trwy ddefnyddio’r DNA sydd mewn paill o gyrff peillwyr i adnabod y planhigion, rydym yn ymchwilio i le y mae ein gwenyn mêl yn mynd i chwilota a pha blanhigion y mae pryfed hofran yn ymweld â nhw, ynghyd ag ymchwilio ymhellach i ecoleg ein gwenyn gwyllt. Os gallwn ddarganfod y planhigion sydd bwysicaf i beillwyr, yna gallwn helpu i sicrhau bod y planhigion hyn ar gael yn amgylchedd y peillwyr. 

Gall rhestrau ‘planhigion ar gyfer peillwyr’ fod yn ddefnyddiol i’n helpu i ddewis y planhigion cywir, ond yn gyffredinol, nid ydynt yn seiliedig ar ddata gwyddonol go iawn. Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, mae gennym fwy na 5,000 o fathau gwahanol o blanhigion blodeuol brodorol ac estron i’n peillwyr ddewis o’u plith. Rydym mewn sefyllfa wych i brofi pa rai sydd orau yn wyddonol. 

Dr Laura Jones, Swyddog Gwyddoniaeth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Dywedodd Dr Laura Jones, Swyddog Gwyddoniaeth yr Ardd Fotaneg: “Er mwyn darganfod pa blanhigion y mae’r peillwyr wedi bod yn ymweld â nhw, rydym yn casglu samplau o baill o’u cyrff neu o’r mêl. Rydym yn echdynnu, yn chwyddo ac yn rhoi trefn ar y DNA yn y paill trwy ddefnyddio technegau meta-godio bar y DNA i nodi ei ffynhonnell. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i barhau i fanylu ar yr union blanhigion sydd bwysicaf i beillwyr, a chymhwyso’r wybodaeth hon i wneud argymhellion o ran plannu y gallwn oll eu defnyddio yn ein gerddi i gynnal a diogelu ein peillwyr”. 

Dywedodd Andrew Brooks, a sylfaenodd Cwmni Jin Gŵyr gyda’i wraig Siân: “Mae’r rým mêl yn cael ei wneud trwy drwytho rým organig, sydd wedi’i aeddfedu mewn casgen, â chyfuniad arbennig o sbeisys sy’n cynnwys fanila, sinsir a blodau orennau. Yna caiff ei gymysgu’n ofalus â mêl artisan Cymreig i greu rým blasus sy’n berffaith ar gyfer ei sipian neu i wneud coctels.” 

Dywedodd Dafydd Morris, perchennog/cyfarwyddwr Cheers Wine Merchants: “Lansiwyd Rým Mêl Sbeislyd Môr-ladron gennym gyda’r bwriad nid yn unig o greu rým blasus, ond hefyd i gefnogi sefydliadau sy’n ymgymryd ag ymchwil pwysig i wenyn a phrosiectau cadwraeth, megis Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru”. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn partneru â’r Ardd Fotaneg, cysylltwch ag Owen Thomas, Swyddog Codi-Arian a Datblygiad. E-bost: Owen.Thomas@gardenofwales.org.uk – Ffôn: 07414 771600

Môr Ladron – Gower Honey Spiced Rum – Priodoliadau: Jac Towler