Talu Teyrnged i’r diweddar D.T. Davies

Cafwyd llu o deyrngedau i David Thomas Davies OBE – a oedd yn cael ei adnabod yn gyffredinol fel D.T. – a fu farw yn 101 oed.

Roedd D.T., a ddisgrifiwyd yn un o “feibion gwych” Sir Gâr ac yn “ddyn eithriadol”, yn gadeirydd Cyngor Sir Dyfed gynt, yn ogystal â Chyngor Sir Gaerfyrddin, a chwaraeodd rôl enfawr yn y gwaith o greu’r Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Dywedodd William Wilkins, a lywiodd y syniad o ardd genedlaethol ar gyfer Cymru ac a oedd yn gyfarwyddwr y prosiect yn y blynyddoedd cynnar cyn iddi agor, fod ymrwymiad D.T. yn “hanfodol”.

“Fel Arweinydd Cyngor Sir Dyfed, rhoddodd gefnogaeth gref a chyson i’r prosiect o’r eiliad y cafodd y syniad ei roi gerbron y cyngor.

“Roedd ei gefnogaeth yn ddiwyro trwy gyfnod cyfan y cais i Gomisiwn y Mileniwm, a heb y gefnogaeth honno, nid oes unrhyw amheuaeth na fyddai’r prosiect erioed wedi dwyn ffrwyth.”

Disgrifiodd Mr Wilkins y ffordd y cafodd y tîm cyfan yn Neuadd y Sir eu symbylu gan achos yr Ardd: “Anogodd dîm eithriadol yn y Cyngor Sir, yn enwedig y Prif Weithredwr, D.H. Davies, a Swyddog Cynllunio’r Sir, David Bown, i ddefnyddio staff ac adnoddau, a chefnogodd hyn ddatblygiad y prosiect gan arwain y cyngor yn ddiweddarach i wneud y penderfyniad hanfodol a hynod bellweledol i roi’r ystad i’r ymddiriedolaeth.”

Ychwanegodd Mr Wilkins: “Parhaodd ei ddiddordeb yn yr Ardd a’i ymrwymiad iddi trwy gydol ei oes. Y tro diwethaf i mi gyfarfod ag ef, holodd am yr Ardd a nododd mor falch yr oedd am y newyddion gwych y llwyddais i’w roi iddo am y cynnydd yn y prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth.”

Bu David Thomas Davies yn gwasanaethu fel cynghorydd ar gyfer ei ardal leol, Dryslwyn, ger Llandeilo, o 1970 tan 2003, gan gadeirio Cyngor Sir Dyfed gynt, o 1981-82, a Chyngor Sir Gaerfyrddin o 1995-97.

I ddarllen rhagor am ei fywyd a’i waith, ewch i wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin a darllen y deyrnged hon http://newsroom.carmarthenshire.gov.wales/2020/04/tributes-paid-to-dt-davies-first-chairman-of-council/#.XpAjBP22m70