Mae cynhyrchion newydd cyffrous yn ymuno â’r dewis o nwyddau Aur yr Ardd, ar gael yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn unig. Mae tri sebon newydd hyfryd nawr ar werth yn Siop Rhoddion yr Ardd Fotaneg – Sebon Mêl, Sebon Mêl a Lafant a Sebon Mêl a Mynawyd y Bugail Rhosynnog.
Mae’r sebonau hyn wedi eu creu gan ddefnyddio cynnyrch y gwenyn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ac maent wedi’u gwneud â llaw a’u pecynnu â llaw yn ofalus gan ein Gwenynwraig gwych a Hyfforddwraig Ecosystemau, Lynda!
Tri Sebon Aur yr Ardd – cliciwch i gael mwy o wybodaeth.
Cynhyrchion Mêl Eraill
Canhwyllau Cwyr Gwenyn
Wedi’i wneud â llaw gan ddefnyddio cwyr gwenyn o’n cychod gwenyn ein hunain!
Mêl Aur yr Ardd
Mêl o’r gwenyn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru! Am wybod o ba gychod gwenyn y daw’ch mêl? Cliciwch yma
Ein Gwenyn
Yn gartref i tua hanner miliwn o wenyn, mae’r Ardd yn ferw o weithgaredd dros y rhan fwyaf o’r flwyddyn.
Mae’r ymchwil gan Dîm Gwyddoniaeth yr Ardd wedi darganfod, er bod yr Ardd yn cynnig bwydlen o fwy nag 11,000 o fathau o blanhigion i’r gwenyn mêl, maent yn dibynnu ar rywogaethau o wrychoedd, coetiroedd a phorfeydd megis miaren, meillionen wlanog, dant y llew, helygen, draenen wen ac eiddew am y rhan fwyaf o’u diet.
Mae Siop yr Ardd yn cymryd archebion dros y ffôn, am fwy o wybodaeth neu i brynu mêl, ffoniwch 01558 667168 os gwelwch yn dda.
Gwnaethpwyd yr ystod o nwyddau Aur yr Ardd yn bosibl gan brosiect Tyfu’r Dyfodol yr Ardd Fotaneg, sy’n gweithio i ddathlu garddwriaeth Cymru, i ddiogelu bywyd gwyllt ac i bwysleisio holl fanteision tyfu planhigion – i’w bwyta, i roi hwyl inni ac i gyfrannu at ein lles a’n hiechyd.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.