Mae’r Ardd ar agor

Mae yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar agor.

Rydyn ni wrth ein boddau yn gallu croesawu ein hymwelwyr ac aelodau yn ôl i’r Ardd Fotaneg!

Nawr ein bod wedi ailagor, gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r parcdir wedi’i adfer. Cymerwch gip ar y mapiau sydd wedi’u lleoli o amgylch yr Ardd ac ewch i archwilio yn yr awyr agored!

Nid yw archebu ymlaen llawn yn hanfodol, gellir prynu tocynnau ar y diwrnod yn Y Porthdy.

Mae tocynnau mynediad yn ddilys am y 7 diwrnod canlynol ar ôl eich ymweliad, ac maent yn caniatâu mynediad am ddim ac anghyfyngedig am y cyfnod hwn.

Os hoffech chi archebu ymlaen llaw, dilynwch y ddolen isod –


  • Mae’r Tŷ Gwydr Mawr a’r Tŷ Trofannol ar agor – Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb, a chadwch at bellter cymdeithasol.
  • Mae ein caffi a adnewyddwyd yn ddiweddar ar agor – Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb, a chadwch at bellter cymdeithasol.
  • Mae yr Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain ar agor. Oherwydd cyfyngiadau COVID-19 rydym wedi creu dau docyn ar gyfer eich ymweliad, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y gwerth gorau am arian, wrth ymweld â’r adar. Gellir prynu Tocynnau Mynediad i’r Ganolfan wrth gyrraedd am £1 ynghyd â’ch mynediad i’r Ardd. Mae hyn yn caniatáu ichi ymweld â’r adar mor aml ag y dymunwch yn ystod eich ymweliad. Gellir prynu Tocynnau Sioe ar wahân pan gyrhaeddwch y Ganolfan Adar Ysglyfaethus am £3.
  • Mae’r Ganolfan Arddio a Siop Botanica ar agor.
  • Mae toiledau ar agor, a gofynnwn ichi wisgo gorchuddion wyneb a chadw at bellter cymdeithasol.
  • Mae ardal chwarae’r plant ar agor.

Beth am ddod yn aelod?

O ddod yn aelod o’r Ardd, fyddwch chi ddim yn unig yn cefnogi’n helusen ac yn ein cynorthwyo i ymgymryd â gwaith ymchwil hanfodol, ond gall aelodau hefyd fwynhau amrywiaeth eang o fanteision:

  • Mynediad am ddim am gyfnod eich aelodaeth.
  • Boreau coffi i aelodau: sgyrsiau, teithiau a gwibdeithiau i erddi eraill
  • Garddwest flynyddol – diwrnod arbennig i aelodau GFGC, gan gynnwys sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau.
  • Calendr lawn ac amrywiol drwy gydol y flwyddyn: sgyrsiau, cyngherddau, ffeiriau bwyd a chrefftau, cerddoriaeth, theatr a digwyddiadau garddwriaethol.