Mae yna atyniad newydd sbon ar gyfer ymwelwyr yn Sir Gaerfyrddin

Prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth, y talwyd amdano trwy ffrwyth llafur ymgyrch codi arian anhygoel, yw’r darn mwyaf o waith y mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi ymgymryd ag ef ers iddi agor ym mis Mai 2000.

Dros 200 mlynedd yn ôl, hwn oedd un o barciau dŵr harddaf y DU. Mae wedi cymryd pum mlynedd a dros £7 miliwn. Bu’n dyst i adferiad llyn 1.5 km o hyd, rhaeadr a sgwd; gwaith adeiladu argae 350 m o hyd, a chwe phont newydd. Ond ‘nawr mae wedi’i adfer ac yn barod i bawb ei weld.

Yn ffansïo mynd am dro? Mae yna filltiroedd o lwybrau perffaith sy’n eich arwain at yr holl nodweddion gwych.

Yn gwirioni ar fywyd gwyllt? Dewch i ymhyfrydu yn haelioni natur, lle mae glas y dorlan, gloÿnnod brwmstan, dyfrgwn a brithyll gwyllt yn ffynnu.

Yn chwilio am y diwrnod perffaith i’r teulu? Dyma le i gael antur. I archwilio. Edrychwch o dan greigiau, trowch y clociau ‘nôl ac ewch ati i esgus eich bod yn blant unwaith eto, lle mae yna ryddid a lle a phrydferthwch i chi fynd ar goll ynddynt ar daith ryfeddol o ddarganfod a gwirioni. I blant o bob oedran.

Wrth gwrs, dim ond rhan o’r hyn sydd gennym i’w gynnig yn yr ardd genedlaethol yw hyn.

Mae’r Ardd Fotaneg ‘nawr yn gartref i Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yn ogystal – casgliad unigryw o ysglyfwyr, a’r unig le yn y DU lle y gallwch weld eryr euraid a  môr-eryr Ewrop yn hedfan, gydag arddangosfeydd hedfan trawiadol bob dydd. Mae’n cynnig cyfle gwych i ddod wyneb yn wyneb â chreaduriaid anhygoel, ac yn gwarantu profiadau agos iawn gyda thylluanod, hebogau, gweilch, eryrod, cudyllod a barcutiaid coch, profiadau na fydd byth yn mynd yn angof.

Prif atyniad yr Ardd Fotaneg yw’r gromen wydr anhygoel, sef Tŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster, sy’n gartref i un o’r casgliadau gorau o blanhigion parth hinsawdd Môr y Canoldir yn y byd.

Wrth sôn am yr adeilad hwn, dywedodd yr awdur a’r darlledwr o Gaerdydd, Charles Williams: “Mae tŷ gwydr un rhychwant mwyaf y byd yn edrych fel pe bai llong ofod wedi glanio yng nghanol cefn gwlad prydferth (ond mewn ffordd dda).”

O gwmpas y Tŷ Gwydr Mawr ym mhobman byddwch yn dod o hyd i ddigon o lwybrau i’w dilyn, ac mae yna rywbeth i gael blas arno, i’w fwynhau, ac i ryfeddu ato o amgylch pob cornel.

Beth am fynd am dro bach tawel wrth ymyl y llyn?

Ychydig ymhellach ymlaen cewch hyd i’r Coedfa, lle rydym yn tyfu coed a phrysgwydd o bob cwr o’r byd gyda hadau a gaglwyd o’r gwyllt – wedi’u plannu ar gyfer y dyfodol ac yn tyfu’n gyflym.

Ymhellach fyth, a byddwch yn cyrraedd yr ystad ehangach, lle bydd llwybrau a gynlluniwyd yn arbennig ac sydd wedi’u marcio’n glir yn eich cludo tuag at ddarganfyddiadau newydd ac anhygoel – dolydd Cap Cwyr gwyllt lle mae ffyngau coch, gwyrdd a melyn llachar yn nythu fel gemau prin yng nglaswellt tuswog y borfa lle bu’r defaid yn pori; a lle mae’r coed a’r gwrychoedd yn ferw o lwydfronnau a gwybedogion.

Nepell o’r fan hon mae ein dolydd gwair, sy’n cael eu rheoli’n ofalus, yn datgelu trysorfa o degeirianau a blodau gwyllt gwefreiddiol eraill cefn gwlad sydd bron yn angof, megis carpiog y gors, y gribell felen, y bengaled, bwrned mawr, effros a digonedd o degeirianau.

Gofalwch fod eich amserlen yn cynnwys yr Ardd Ddeufur unigryw a hanesyddol, y Tŷ Trofannol tawchog, yr Ardd Wenyn brysur, perllan y dreftadaeth Gymreig, a choedlan o dros 100 o goed ceirios newydd eu plannu.


Am fwy o wybodaeth am yr Ardd Fotaneg, ewch i’n gwefan.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar archebu lle, cysylltwch â’n tîm Mynediadau ar 01558 667149 neu drwy gatehouse@gardenofwales.org.uk

Am fwy o fanylion am Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, edrychwch ar eu gwefan

Os oes angen lluniau digidol safon uchel (high res), cysylltwch â pressoffice@gardenofwales.org.uk