Aelodaeth fel Anrheg Nadolig

Ydych chi’n dechrau meddwl am y Nadolig?

 

Ydych chi’n dechrau gofidio am y ffrind neu berthynas sy’n anodd prynu ar eu cyfer?  Aelodaeth i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw’r anrheg sy’n cadw rhoi – sy’n cynnig mynediad AM DDIM i’r Ardd 363 diwrnod o’r flwyddyn, a llawer mwy.

 

Mae’r prisoedd yn dechrau o £38 a chofiwch, gallwch brynu am unigolyn, am gwpl neu deulu cyfan (dau oedolyn a hyd at bedwar o blant).

 

Am fwy o wybodaeth am y wahanol fathau o aelodaeth sydd ar gael, cymerwch olwg yma, neu ffoniwch Jane ar 01558 667118 neu’r tîm mynediadau ar 01558 667149.