Mae’r rolau canlynol ar gael ar hyn o bryd yn yr Ardd a fydd yn ein helpu i dyfu yn y dyfodol ac yn ein galluogi i barhau â’n gwaith fel sefydliad cenedlaethol allweddol sy’n ymroddedig i wyddoniaeth, cadwraeth ac addysg.
Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr
Dyddiad Cau: 5 Chwefror 2026
Yn dilyn ymddeoliad y cyn-gadeirydd ar ôl 8 mlynedd, mae’r Ardd yn chwilio am olynydd o gefndir perthnasol (gan gynnwys garddwriaeth, addysg, cynaliadwyedd, cadwraeth, gwyddoniaeth ac ymchwil, y celfyddydau a diwylliant Cymru, a busnes) gyda phrofiad lefel bwrdd o gadeirio bwrdd neu bwyllgor bwrdd. Bydd y sawl a benodir yn dod â brwdfrydedd ac empathi at waith yr Ardd ac yn arwain a chefnogi’r Bwrdd a’r tîm gweithredol i wireddu eu huchelgeisiau beiddgar.
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma…