Llogi lleoliad

Mae’r Ardd yn lle delfrydol er mwyn cynnal achlysuron preifat, seminarau, diwrnodau o hyfforddi, a chynadleddau

Gallwn ni gynnig nid yn unig safle prydferth, ond mae gennym hefyd gyfleusterau rhagorol ar gyfer digwyddiadau bach a mawr, ac ry’n ni’n darparu gwasanaeth unigol er mwyn diwallu amrywiaeth eang iawn o anghenion.  Lleolir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gyfleus ger Caerfyrddin, ar yr A48 rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin, funudau o’r M4.

Mae’r Ardd Fotaneg yn le hygyrch iawn, ac mae lifft mewn sawl adeilad.  Mae cyfleusterau cynadledda ar gael yn ystod y dydd a gyda’r nos. Gellir addasu’r seddau yn y stafelloedd i gwrdd â’ch anghenion arbennig.

Mae gan yr Ardd 6 lleoliad ar gyfer eu llogi’n gorfforaethol

Mae pob un â’i nodweddion arbennig, yn gwbl hygyrch, ac ar gael yn ystod y dydd a gyda’r nos. Gellir addasu’r seddau ym mhob lleoliad ar gyfer eich anghenion.

Manylion y Pecyn i Fynychwyr Diwrnod – pris: £18.95 (ynghyd â TAW)

Mae’r Pecyn i Fynychwyr Diwrnod yn caniatáu ffordd hwylus i chi gostio eich digwyddiad. Mae pob Pecyn i Fynychwyr Diwrnod yn cynnwys y canlynol:

  • Hurio Stafell am y diwrnod
  • Dŵr mwynol
  • Egwyl lluniaeth: wrth gyrraedd, canol bore, canol prynhawn – gan gynnwys cacennau a bisgedi
  • Cinio Bwffe – Bwffe bys, sudd/te a choffi
  • Offer

Os byddwch yn dewis y pecyn uchod, bydd yn rhaid i’ch grŵp gynnwys o leiaf 10 person.

Darllenwch ymlaen er mwyn gweld pa leoliad sy’n addas i chi.

Noder os gwelwch yn dda: nid yw ein taliadau a restrwyd yn cynnwys TAW, a fydd yn cael ei godi ar y raddfa gyfredol.  Mae Wi-Fi yn rhad ac am ddim ar draws yr Ardd.

Cysylltwch â Sarah Williams os gwelwch yn dda, os oes angen mwy o fanylion arnoch, os oes ymholiadau arbennig ganddoch, neu os dymunwch wneud archeb darpariaethol.