Cwestiynau cyffredin

    Oes hawl dod â phicnic gyda ni?

    Oes. Mae gennym fannau picnic hardd ar draws yr Ardd Fotaneg a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las gerllaw. Hefyd, mae gennym fyrddau tu allan ger ein Caffi Botanica sy’n wych os ydych am ychwanegu at eich picnic gyda danteithion arbennig neu rywbeth y gallech fod wedi’i anghofio.

    Oes modd inni ddod â'r ci i mewn i'r Ardd?

    Mae’n flin gennym, ond ni chaiff cŵn fynediad i’r Ardd yn ddyddiol (ac eithrio cŵn tywys).  Serch hynny, cynhaliwyd Diwrnodau i Chi a’r Ci yn aml pan fydd croeso i chi ddod â’ch ci am dro i mewn ac o gwmpas yr Ardd.  (Ni chaniateir cŵn yn Y Tŷ Trofannol nac yr Tŷ Gwydr Mawr.)  Gweler Rheolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma.

    Os nad wyf yn gallu dod â fy nghi, oes yna ardal gerdded i gŵn?

    Oes, mae yna lwybr o gwmpas ffiniau’r Ardd ac mae dŵr ar gael i gŵn o’r Pot Blodyn, caffi’r Porthdy.

    Oes yna barcio o dan gysgod er mwyn i mi adael fy nghi yn y car yn yr haf?

    Nac oes, a nid ydym yn eich cynghori i adael eich ci yn eich car gan bod y tu fewn o’ch car yn gallu twymo.

    Ydy'r Ardd yn gyfleus i rywun mewn cadair olwyn?

    Mae holl lwybrau’r Ardd (heblaw am yng Ngwarchodfa Natur Waun Las) yn addas i gadeiriau olwyn ac mae yna nifer ohonynt i’w benthyg o’r Porthdy.

    Os ydych chi’n anabl neu os oes ydych chi yn cael trafferth symud o gwmpas, mae gennym hefyd wasanaeth bygis gwennol rheolaidd er mwyn eich cludo i’r rhan fwyaf o’r Ardd, a mynd â chi nôl i’r Porthdy.  Bydd ein gyrwyr bygis yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych am eich ymweliad.

    Fel elusen, rydym yn dibynnu ar rhoddion, gan gynnwys cadeiriau olwyn, a baswn ni a’n ymwelwyr llai symudol yn gwerthfawrogi unrhyw rhodd yn fawr iawn. Os oes gennych gadair i’w rhoi, rhowch alwad ffôn i ni ar 01558 667149.

    Os bydd angen i mi fynd i nôl rhywbeth o’r car ar ôl i mi dalu, ydw i’n gallu dychwelyd i’r Ardd?

    Wrth gwrs, mae staff y Porthdy yn gyfeillgar iawn!  Rhowch wybod iddynt  beth fyddwch chi’n ei wneud.

    Oes rhaid talu am barcio?

    Nac oes, bydd ymwelwyr ond yn talu am fynediad i’r Ardd. Os hoffech ymweld â’r ganolfan blanhigion neu brynu diod neu fwyd o Gaffi’r Pot Blodyn yn unig, gallwch barcio am ddim.

    Os byddwn yn teithio i’r Ardd ar feic neu feic modur, oes yna unrhywle diogel i adael offer beic/ helmed ayyb, yn hytrach na chario popeth o gwmpas?

    Oes, mi fydd staff y Porthdy yn gallu cadw eich eiddo mewn cwpwrdd tu ôl i ddesg y dderbynfa.

    Â yw’r Ardd Fotaneg yn lle addas i ddod â phlant?

    Ydy wir, mae’r Ardd yn safle mawr efo digonedd o lefydd i archwilio.  Mae gennym ardal chwarae i blant yn llond pethau i’w neidio arnyn nhw, cropian trwyddyn nhw a chwarae yn ddychmygus.

    Mae hefyd gennym arddangosfeydd dan-do a llwybrau ar draws yr Ardd, rhai ohonynt wedi eu hanelu’n benodol at blant.  Yn ystod gwyliau ysgol, rydym wastad yn cynnal digwyddiadau y gall y teulu cyfan eu mwynhau efo’u gilydd, gan gynnwys crefftau, plymio mewn pyllau, straeon ac ymweld â Sion Corn.

    Rydw i yn aelod o wahanol fudiadau, pa rhai sydd yn caniatâu mynediad i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru?

    Mae gan yr Ardd drefniadau aelodaeth cytbwys efo’r gerddi isod. Mi fydd aelodau o’r gerddi yna hefyd yn cael mynediad i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol (rhai telerau ac amodau yn berthnasol.)

    • Arboretum Westonbirt, Swydd Caerloyw
    • Gardd Cymdeithas Frenhinol Garddwriaethol Rosemoor, Dyfnaint (Hydref tan fis Mawrth)
    • Gerddi ac Arboretum Syr Harold Hillier, Swydd Hampshire
    • Gardd Organig, Ryton, Coventry
    • Gerddi Botaneg a Thai Gwydr, Birmingham
    • Gardd Fotaneg Prifysgol Rhydychen ac Arboretum Harcourt
    • Y Fforest Law Fyw, Swydd Berkshire
    • Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin
    • Gardd Fotaneg Iau, Argyll
    • Gardd Fotaneg Logan, Galloway
    • Gardd Fotaneg Dawyck, Gororau’r Alban
    Beth arall sydd i'w wneud yn Sir Gâr?

    Mae Sir Gâr yn sir hynod o brydferth, gyda golygfeydd ysblennydd, traethau euraid, parciau a gerddi gwych, trefi a phentrefi hyfryd, heb sôn am y cestyll anhygoel.

    Am ragor o ysbrydoliaeth ewch i wefan Sir Gâr,  Darganfod Sir Gaerfyrddin

    Faint yw mynediad i gofalwyr?

    Mae mynediad i’r Ardd am ddim i ofalwyr gyda’r person(au) mae nhw’n gofalu amdanynt.