Ymweliadau Grŵp

Ry’n ni’n cynnig graddfa arbennig o £15.20 yr oedolyn ar gyfer ymweliadau gan grwpiau o gwmnïau coetsys, cwmnïau teithio, a grwpiau (deg neu fwy o ymwelwyr).

Ry’n ni wedi’n lleoli’n gyfleus iawn rhyw 2 funud o’r ffordd ddeuol, yr A48 – ac mae gennym lefydd parcio i goestsys yn unig, ynghyd â digon o lefydd i barcio am ddim i geir a bysys bach.

Archebwch eich ymweliad grŵp ar 01558 667148.

Anrheg Arbennig i Yrwyr Coetsys

Caiff yrwyr coetsys sy’n dod ag ymwelwyr i’r Ardd fynediad am ddim a thaleb am bryd o fwyd gwerth £9.95.

Teithio mewn Grŵp

Mae’r Ardd Fotaneg yn cydweithio â Thrafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi i alluogi grwpiau a sefydliadau i ymweld â’r Ardd Fotaneg.

A Dolen Teifi Bus

Mae Dolen Teifi yn sefydliad di-elw ac yn elusen gofrestredig sy’n anelu at ddarparu cludiant fforddiadwy a hygyrch i unigolion, sefydliadau a grwpiau i helpu i sicrhau newid cymdeithasol yn ein cymuned yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion.

Os ydych yn teithio i’r Ardd Fotaneg drwy Ddolen Teifi, bydd mynediad yn hanner pris.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Drafnidiaeth Cymunedol Dolen Teifi yn cynnwys sut i gysylltu â nhw i archebu eich cludiant.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch o’r Ardd Fotaneg, cysylltwch â angharad.phillips@gardenofwales.org.uk