Mae’n Wythnos Natur Cymru! I ddathlu, rydyn ni’n rhannu mewnwelediad i gofnodi biolegol — beth ydyw, pam ei fod yn bwysig, a sut allwch chi gymryd rhan. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod cyn ein Gŵyl BioBlitz ar y 19eg a’r 20fed o Orffennaf, lle byddwn yn rasio i gofnodi cymaint o rywogaethau â phosibl yn yr Ardd Fotaneg mewn dim ond 48 awr!
Ydych chi erioed wedi meddwl…
- Faint o rywogaethau sy’n byw mewn ardal?
- Ble mae rhywogaeth i’w chael?
- A yw rhywogaeth yn dirywio neu’n lledaenu?
- Sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein bywyd gwyllt?
Ni fyddem yn gallu ateb unrhyw un o’r cwestiynau hyn heb gofnodion biolegol!
Mae cofnodi biolegol yn golygu casglu data am bresenoldeb, nifer a dosbarthiad organebau byw. Mae pobl wedi bod yn cofnodi eu harsylwadau o fywyd gwyllt ers cannoedd o flynyddoedd, ac mae’r cofnodion hyn yn hanfodol ar gyfer deall bioamrywiaeth ac olrhain newidiadau yn ein hamgylchedd.
Gall unrhyw un fod yn gofnodwr biolegol — gwyddonwyr, naturiaethwyr amatur, neu unrhyw un sy’n chwilfrydig am natur. Nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr!
Gellir gwneud cofnodi biolegol yn unrhyw le — mae eich gardd, parc lleol, neu hyd yn oed ymyl ffordd yn lleoedd gwych i ddechrau.
Sut i wneud cofnod biolegol
Cam 2: Mae angen adnabod y rhywogaeth
Defnyddiwch ganllawiau maes, apiau, gwefannau, neu gofynnwch i arbenigwr. Os ydych chi’n ansicr, tynnwch lun fel y gallwch chi ei adnabod yn ddiweddarach.
Cam 3: Nodwch y manylion
Lle? (y lleoliad a chyfeirnod grid – gallwch chi lawrlwytho ap a fydd yn dweud hyn wrthych chi)
Pryd? (y dyddiad a welwyd)
Pwy? (eich enw)
Cam 3: Cyflwynwch eich cofnod
Y ffordd hawsaf yw drwy ap LERC Cymru. Lawrlwythwch yr ap, crëwch gyfrif, ac uwchlwythwch eich arsylwadau – syml!
Am ganllaw mwy manwl ar sut i ddefnyddio’r ap, ewch i wefan WWBIC.
Cam 5: Rhowch eich sgiliau ar brawf!
Dewch i’n Gŵyl BioBlitz, lle gallwch ymarfer eich sgiliau cofnodi newydd. Mae BioBlitz yn arolwg hwyl a chyflym i ddod o hyd i, adnabod a chofnodi gymaint o rywogaethau â phosibl mewn cyfnod byr o amser. Felly, mae angen eich help arnom!
Bydd rhaglen wych o weithdai ymarferol, teithiau cerdded tywys, sgyrsiau arbenigol, a gweithgareddau bywyd gwyllt i bob oed hefyd. Dysgwch fwy drwy fynd i dudalen Gŵyl BioBlitz.
Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.






