3 Gorff 2024

O’r Gorffennol i’r Presennol: Erwain a Chribau San Ffraid

El James

Mae hi’n Wythnos Natur Cymru, a heddiw rwyf am sôn wrthych am ddau blanhigyn sydd wedi tynnu fy sylw ac sydd ar fin blodeuo neu eisoes yn blodeuo yn ein dolydd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. I ychwanegu diddordeb, rwyf hefyd wedi tynnu lluniau sbesimenau o’r planhigion hyn o’n casgliad o’r 1800au yn y llysieufa, sef casgliad yr ydym yn brysur yn ei ddigideiddio ar hyn o bryd, diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae’r planhigyn cyntaf yr hoffwn ganolbwyntio arno yn un a welwn yn weddol aml yr adeg hon o’r flwyddyn, sef Filipendula ulmaria neu, o’i alw’n ôl ei enw mwy adnabyddus, Erwain. Mae’n bosibl y byddwch wedi ei weld yn tyfu mewn perthi, coetiroedd neu ddolydd yn eich ardal, yn enwedig os ydynt yn fannau llaith. Mae’n blanhigyn sy’n dal y llygad yn go iawn yn fy marn i oherwydd ei flodau mawr gwyn hufennog sy’n siglo yn yr awel, ac oherwydd ei arogl melys, er nad yw hwnnw at ddant pawb chwaith!

Mae erwain o werth mawr i lawer o bryfed peillio ac mae’n ffynhonnell arbennig o dda o fwyd i lindys nifer o rywogaethau gwyfynod.

Mae’r sbesimen hwn o’r llysieufa yn cyfleu nodweddion y planhigyn i’r dim gan ei fod yn dangos ochr isaf ariannaidd y ddeilen, y siâp a’r blodau bach. I’r rhai hynny ohonoch sydd â llygad barcud ac sydd wedi dechrau darllen y label, efallai y byddwch yn sylwi bod ei enw gwyddonol, sef Spiraea ulmaria, ychydig yn wahanol i’r enw sydd ganddo ‘nawr. Y rheswm dros hyn yw fod rhywogaethau planhigion wedi cael enwau amrywiol gan fotanegwyr gwahanol dros y blynyddoedd, ond erbyn heddiw mae eu henwau’n seiliedig ar DNA y planhigyn – sef un o’r rhesymau niferus dros gadw’r casgliadau llysieufaoedd hanesyddol hyn fel adnodd ymchwil.

Y planhigyn nesaf yr hoffwn ganolbwyntio arno yw Betonica officinalis, neu, yn ôl ei enw mwy cyffredin, Cribau San Ffraid. Dyma blanhigyn bach hyfryd sy’n perthyn i deulu’r mintys, ac mae ar fin blodeuo!

Cadwch eich llygaid yn agored wrth gerdded ar hyd ein llwybrau wedi’u torri yn y dolydd gan eu bod i’w gweld yma ac acw ar yr ymylon – bydd y blodau porffor pinc bywiog yn hawdd eu gweld.

Mae’n bosibl y byddwch hyd yn oed yn gweld y planhigyn yn y borderi ar hyd y Rhodfa sy’n eich arwain i fyny at y Tŷ Gwydr Mawr. Fel yn achos mwyafrif y planhigion yn nheulu’r mintys, mae gwenyn wrth eu bodd â’r planhigyn hwn!

Y tu ôl i’r llenni yn y Llysieufa mae gennym lawer o bobl yn trawsgrifio labeli’r sbesimenau hyn, gwaith sy’n gofyn am lawer iawn o amynedd o ran ceisio dehongli llawysgrifen o’r 1800au. Mae’n dasg anoddach na’r disgwyl, ond mae’n cydio ynoch! Rydym yn casglu’r holl ddata, gan gynnwys yr enw gwyddonol, enw’r lleoliad casglu, y dyddiad casglu ac enw’r casglwr ei hun. Dyma her i chi roi cynnig arni – cadwch eich llygaid yn agored yn ddiweddarach yn y flwyddyn am adeg lansio ein cyfle trawsgrifio o bell!