5 Gorff 2024

Byd o fewn Bydoedd: Bryoffytau’r Ardd Fotaneg

Leila Franzen

I ddathlu Wythnos Natur Cymru, rydym heddiw’n plymio i fyd hynod ddiddorol y mwsoglau!

Yn guddiedig yn yr Ardd Fotaneg y mae dros 130 o rywogaethau bryoffytau sydd wedi’u cofnodi, ac mae yna lawer mwy heb eu cofnodi eto. Rydym yn trysori bryoffytau yma yn yr Ardd oherwydd y golwg amrywiol sydd iddynt ac oherwydd eu rolau unigryw mewn ecosystemau. Efallai eich bod yn adnabod bryoffytau’n well wrth yr enw mwsoglau, ond dim ond un grŵp ymhlith y bryoffytau yw mwsoglau. Hefyd yn perthyn i’r grŵp hwn y mae’r llysiau’r afu a’r cyrnddail llai hysbys, sy’n llenwi cilfachau ecolegol tebyg.

Mae bryoffytau’n wahanol i blanhigion eraill am eu bod yn atgenhedlu trwy sborau neu ddarnau o’r planhigyn. Nid oes ganddynt chwaith wreiddiau go iawn na system fasgwlaidd, ac maent yn amsugno eu holl faethynnau yn uniongyrchol o’r atmosffer neu’r glaw. Fel arfer dim ond un gell o drwch yw eu dail, ac felly nid oes ganddynt y gallu i gadw dŵr yn yr un modd â phlanhigion syd â dail cwyraidd. Yn lle hynny, maent yn cyrlio eu dail ac yn arafu eu metaboledd yn ystod cyfnod o sychder, gan aros am y gawod nesaf o law. Mae mwsoglau’n cynrychioli diffyg ymwrthedd llwyr i fympwyon yr amgylchedd; mae ganddynt agwedd hamddenol at fywyd a gallant ddysgu llawer i ni am amynedd.

Fel yn achos y rhan fwyaf o fywyd gwyllt y DU, mae bryoffytau’n dod fwyfwy dan fygythiad. Colli cynefinoedd yw’r prif reswm dros hyn, ond mae llygredd a’r newid yn yr hinsawdd yn ffactorau eraill. Mae ar rai rhywogaethau angen pâr ychwanegol o ddwylo i’w helpu, ac felly yn ein Canolfan Wyddoniaeth rydym yn tyfu’r mwsogl prin Tortula canescens er mwyn dychwelyd y rhywogaeth hardd hon i’w chynefin naturiol.

Mwsogl arfordirol yw Tortula canescens yn bennaf gan ei fod yn tyfu ar bridd asidig sy’n cael ei sychu bob hyn a hyn yn ystod yr haf. Mae’n hysbys mewn llai na 10 safle yng Nghymru, ac mae bron â bod yn gyfan gwbl gyfyngedig i arfordir Cernyw yn Lloegr. Mae’r gwaith gwarchod bryoffytau hwn yn rhan o’r Prosiect Natur Am Byth. Y rhywogaeth nesaf y byddwn yn ei lluosogi yw Bartramia stricta, mwsogl sy’n cynhyrchu sboroffytau gwyrdd bach tebyg i afalau, gan ennill iddo le ymhlith ychydig o rywogaethau eraill o’r enw’r afal-fwsoglau.

Yn drist iawn, mae bryoffytau’n cael eu hanwybyddu a’u camddeall yn aml, a dyna pam yr ydym yma, yn yr Ardd, wedi penderfynu eu dathlu’n rhan o Wythnos Natur Cymru. Felly’r tro nesaf y byddwch yn pasio mwsogl, cymerwch ennyd i edrych yn fwy manwl a gwylio wrth i fyd o fewn bydoedd ei ddatgelu ei hun.

Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.