1 Tach 2023

Ariannu garddwriaethwyr ein dyfodol

Owen Thomas

Roedd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn falch tu hwnt o gael croesawu Colin Greengrass ar 17 Tachwedd a ddaeth o gyflwyno rhodd o £3,500 oddi wrth Gymdeithas Garddio Brycheiniog.

Bydd y rhodd yn mynd tuag at ein Cynllun Prentisiaeth mewn Garddwriaeth Fotanegol, sy’n darparu hyfforddiant ymarferol mewn garddwriaeth fotanegol. Drwy weithio ochr yn ochr â garddwriaethwyr eraill yn yr Ardd, mae ein prentisiaid yn cael hyder a phrofiad gwaith mewn pob maes mewn garddwriaeth yn yr Ardd, gan gynnwys gweithio mewn tai gwydr, meithrinfeydd a garddwriaeth arddangosiadol.  Mae datblygiad personol yn cael ei annog gyda chyfleoedd i ennill cymwysterau’r Cyngor Cenedlaethol Profion Cymhwyster a dewisiadau i gymryd rhan mewn lleoliadau gyda gerddi eraill sy’n bartneriaid.

Cyfarfu Colin ag aelodau  blaenorol a phresennol y cynllun, ac roeddent i gyd yn uchel iawn eu canmolaeth a’u brwdfrydedd am ansawdd yr hyfforddiant, y profiad a’r cyfleoedd roedd wedi eu creu iddynt. Mae cynlluniau fel hwn yn ddrud iawn i’w gweithredu, ac mae pob rhodd yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr iawn. Yn wir, rydym yn ddyledus iawn i’r Cyrnol Patrick Daniell am ei gefnogaeth faith i’r cynllun am flynyddoedd lawer.

Meddai Owen Thomas, y Rheolwr Codi Arian a Datblygiad, “Rydyn ni wrth ein bodd yn derbyn y rhodd hael hon gan Gymdeithas Garddio Brycheiniog. Bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r Cynllun Prentisiaeth mewn Garddwriaeth Fotanegol sydd, ers 2015, wedi helpu mwy nag 20 o bobl ifanc i gymryd eu camau cyntaf i fod yn arddwriaethwyr wedi eu hyfforddi’n llawn. Gyda’r cymorth hwn byddwn yn gallu tyfu cyfleoedd i fwy o bobl gael ein hyfforddiant hanfodol, gan sicrhau i ni y genhedlaeth nesaf o gadwriaethwyr planhigion.  Gyda materion fel  newid yn yr hinsawdd, sicrwydd bwyd a cholli cynefinoedd ar frig ein hagenda, mae angen hyn nawr yn fwy nag erioed”.

Meddai Colin, yn siarad ar ran y Gymdeithas, “Mae cynllun fel eich cynllun chi yn hanfodol i hyfforddi a datblygu’r genhedlaeth nesaf o arddwyr, a fydd yn mynd ymlaen i arwain  prosiectau eraill i ddod â manteision anferth i bobl sydd â diddordeb mewn garddwriaeth a’u cymunedau. Hir y parhaed hynny.”

Os hoffech gael gwybod rhagor, neu gyfrannu atein Cynllun Prentisiaeth, ewch i’r dudalen Prentisiaeth.