6 Hyd 2023

Atgyweirio’r ‘Tŷ Eirin Gwlanog’

Helen Whitear

Atgyweiriadau traddodiadol, cynaliadwy i adeilad hanesyddol yn GFGC, diolch i Ganolfan Tywi

Mae’r ‘Tŷ Eirin Gwlanog’ yn dŷ gwydr hanesyddol, a ddefnyddiwyd ar un adeg i dyfu ffrwythau egsotig, ac a oedd yn elfen bwysig o’r ardd ddeufur eiconig yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Cafodd ei adeiladu ychydig dros 200 mlynedd yn ôl fel rhan o waith William Paxton o ailfodelu ystâd Neuadd Middleton.

Ers hynny, mae adeiladau’r Tŷ Eirin Gwlanog a ‘Bwthyn y Garddwr’ sydd ynghlwm wedi gweld tynged gymysg, yn dirywio’n osgeiddig ond yn gyson, am ran helaeth o’r ugeinfed ganrif. Mae bellach arnynt angen gofal go iawn gan bobl sy’n deall y ffordd orau o ofalu amdanynt.

Felly rydym wedi bod yn falch iawn o groesawu tîm ‘Canolfan Tywi’ o arbenigwyr adeiladau traddodiadol, i helpu gyda’n cynlluniau parhaus i achub y rhan bwysig hon o dreftadaeth adeiledig yr Ardd. Wedi’i leoli’n lleol yn Llandeilo, mae’r tîm yn cynnal hyfforddiant ac yn rhoi cyngor i gefnogi pawb dan haul sy’n gofalu am adeiladau hanesyddol ledled Cymru (Hafan | Canolfan Tywi.) Daethom at ein gilydd ar y safle i sgwrsio â Helena Burke (Swyddog Sgiliau a Phrosiectau Treftadaeth y Ganolfan), Olly Coe (Pen-saer Maen a Chyfarwyddwr Coe Stone Ltd.) a thri dysgwr, sydd ar hyn o bryd yn dilyn NVQ3 mewn Gwaith Maen Treftadaeth yng Nghanolfan Tywi. Y dysgwyr yw Chris Haxton o Wessex Conservation Company, Max Dixon o Jones and Fraser Ltd, a Matthew James o Cadw. 

Dros yr wythnosau diwethaf, dan arweiniad Olly, mae’r tri dysgwr wedi bod wrthi’n ofalus yn adfer peth gwaith carreg a ffenestri ac agoriadau drysau carreg nadd Bwthyn y Garddwr. Maent wedi manteisio i’r eithaf ar y cyfle i gael profiad ar y safle mewn gwaith maen ac atgyweirio’r gwaith carreg traddodiadol presennol, a chytunodd y tri fod gweithio ar safle fel y Tŷ Eirin Gwlanog o fudd gwirioneddol. Mae cael eu hyfforddi ar y prosiect byw hwn wedi gwneud iddynt deimlo balchder enfawr yn eu gwaith atgyweirio medrus, y maent yn awyddus i nodi a fydd yn para o leiaf 200 mlynedd arall!

Mae’r rhain yn sgiliau hynod werthfawr – mae adeiladu’n strwythurol â charreg, deall ffabrig yr adeilad a sut i ddefnyddio morter calch yn gywir, i gyd yn hanfodol ar gyfer gofalu am ein Hadeiladau Rhestredig niferus yng Nghymru. Mae’n llai hysbys bod y sgiliau hefyd yn bwysig er mwyn gofalu’n dda ac mewn modd cynaliadwy am ein hadeiladau waliau solet traddodiadol niferus ledled Cymru (mae tua thraean o’n tai presennol wedi’u hadeiladu yn y modd hwn!) Gwyddom fod ein hadeiladau hanesyddol o arwyddocâd diwylliannol enfawr i Gymru – mae iddynt hefyd werth economaidd ac os ydym yn dewis gofalu amdanynt yn dda, gall hen adeiladau fod yr un mor amgylcheddol gynaliadwy ag adeiladau newydd (ac weithiau’n fwy amgylcheddol gynaliadwy.)

Mae Olly yn tynnu sylw at y ffaith bod yna brinder sgiliau enfawr mewn perthynas â gweithio’n dda â hen adeiladau – dim ond technegau adeiladu modern y mae’r rhan fwyaf o brentisiaethau’n eu haddysgu. Ychwanegodd Helena fod y sgiliau hyn wedi bod yn dirywio ers amser maith a’u bod mewn perygl o gael eu colli’n gyfan gwbl. Mae Canolfan Tywi yn gweithio’n galed i wrthdroi’r sefyllfa hon, ac yma yn GFGC rydym yn hapus i gael y cyfle i gefnogi ei hymdrechion mewn modd parhaus.