20 Gorff 2023

Diweddariad Haf y Gwenyn

Martin Davies

Ers diwedd mis Mawrth mae’r tywydd wedi bod yn gynnes ac yn sych iawn, ac mae’r haf i’w weld wedi dod yn gynnar.  Mae’r coed a blannwyd yn gynharach eleni ar safle’r wenynfa newydd i gyd yn ymsefydlu, a byddant yn gefnlen hyfryd i’r safle ar ôl dod i’w llawn dwf. Bydd y cyfuniad o liw a chwmpas hefyd yn darparu cefnogaeth i’r gwenyn  yn ystod dechrau’r gwanwyn, pan fydd ei hangen fwyaf ar y gwenyn.

Mae nifer y gwenyn i gyd wedi bod yn cynyddu’n raddol, a rhai o’r nythfeydd yn gwneud yn well na’i gilydd. Ond yn fuan bydd ganddynt i gyd ddigon o wenyn i gasglu a storio’r mêl sy’n hanfodol iddynt oroesi’r gaeaf. Ychwanegwyd at niferoedd y nythfeydd yn yr Ardd hefyd wrth i ambell haid ddod i fyw yn rhai o’r cychod denu gwag sydd wedi eu gosod yn ein nythfa newydd, Cae Gwenyn.  Mae hyn wedi gwneud iawn i ryw raddau am rai o’r colledion dros y gaeaf.

Mae’r mafon gwyllt wedi bod yn eu blodau o gwmpas yr ardd wenyn ers rhai wythnosau, a gobeithio y bydd y glaw yn ddiweddar yn atal y ffrwythau rhag crino fel y gwnaethant yr haf llynedd.  Mae blodau’r drain wedi dechrau ymddangos, ac ymhen wythnos neu ddwy byddant wedi agor yn llawn. Mae hwn yn gyfle pwysig iawn i’r gwenyn gasglu llawer iawn o neithdar dros y 3-4 wythnos nesaf, a gall fod yn amser prysur iawn i wenwynwyr. Gall pob nythfa gasglu 15-25kg o fêl bob wythnos yn ystod y cyfnod hwn, a gall fod yn anodd dal i fyny’r â’r galw am ddarparu lle iddynt storio’r cyfan. Mae mêl o flodau’r drain bob amser yn  boblogaidd am fod ei liw yn olau a’i flas yn felys.

Yn fuan ar ôl y Drain daw’r Helyglys Hardd, un arall o ffefrynnau’r gwenyn, ac mae hwn hefyd yn doreithiog yn rhannau gwylltaf yr Ardd. Mae’n ychwanegiad at y drain drwy roi mêl melys gydag arogl braf. Mae’n blodeuo am wythnosau lawer, ac mae’n ffynhonnell  bwysig ar gyfer fforio yn yr haf.

Darparwyd dau Ddosbarth Ymarferol Cadw Gwenyn ers y gwanwyn, a mwynhaodd y rhai a gymerodd ran y cyfle i gyfuno theori a rhyngweithio ymarferol gyda’r gwenyn. Diolch byth, roedd y gwenyn yn dawel, ac ni tharfwyd arnynt gan ymyriadau rheolaidd y dosbarth wrth fynd o gwmpas eu gweithgareddau arferol.

Bydd y misoedd nesaf yn amser prysur iawn i ni ac i’r gwenyn wrth inni baratoi i gynaeafu rhywfaint o’r mêl a fydd wedi ei gynaeafu erbyn diwedd mis Awst, cyn belled ag y bydd digon ar ôl i bara drwy’r gaeaf. Yna daw’r hwyl o gasglu’r mêl a’i roi mewn potiau yn barod i’w werthu ym mannau gwerthu’r Ardd. Mae yna ychydig ar ôl o hyd o gnwd y llynedd, a gobeithio y bydd digon ar ôl i ateb y galw nes bydd y cnwd newydd ar gael ddiwedd mis Medi.

Ychwanegir at ein gweithgareddau cadw gwenyn hefyd ddiwedd yr haf, gyda chyfle i ymwelwyr gymryd rhan mewn sesiynau Blasu. Cyrsiau o ryw ½ diwrnod fydd y cyrsiau hyfforddi hyn, a bydd y cyfranogwyr yn dysgu am theori sylfaenol cadw gwenyn. Cânt hefyd ychydig brofiad ymarferol o archwilio a thrafod gwenyn mewn nythfa.

Yn gynnar yn y gwanwyn bydd ein dosbarthiadau labordy poblogaidd Cynnyrch y Cwch yn dychwelyd. Mae’r rhain yn cynhyrchu sebon a defnyddiau coluro, a Gwneud Canhwyllau gan ddefnyddio cŵyr oddi wrth ein gwenyn ein hunain. Trowch i’r wefan am ragor o fanylion pan fydd y rheiny wedi eu cwblhau.

Mwynhewch yr haf, a gobeithio y caf weld rhai ohonoch o gwmpas yr Ardd.

Martin & The Beekeeping Team


Noddi Cwch Gwenyn

Helpwch ni i gynnal ein heidiau drwy noddi un o’r cychod heddiw. Bydd eich cyfraniad yn cynnwys y newyddion diweddaraf (bob 3 mis) gan ein Gwenynwr, a fydd yn dweud popeth wrthych am ein gwaith yn cynnal ein cychod.