25 Maw 2022

Argymhellion planhigion o ymchwil yr Ardd Fotaneg

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Nod yr astudiaeth hon oedd darparu argymhellion tymhorol i arddwyr i sicrhau bod pryfed peillio’n cael eu cefnogi’n briodol drwy gydol y flwyddyn. Fe wnaethom adnabod y planhigion yr ymwelodd peillwyr â trwy nodweddu’r DNA o fewn paill ar eu cyrff, gan ddefnyddio proses a elwir yn metabarcodio DNA. Yma, rydym yn amlinellu rhai o’r prif blanhigion a nodwyd gan yr astudiaeth.

 

Blodau Ymenyn a Llygad Ebrill (rhywogaeth Ranunculus a Ficaria verna)

Mae blodau ymenyn (rhywogaeth Ranunculus) a llygad Ebrill (Ficaria verna) yn codi’r galon yn gynnar ac yn hwyr yn y gwanwyn fel carped o flodau ymenyn hardd sy’n ffynhonnell fwyd gynnar i beillwyr. Dyma’r grŵp roedd cacwn, gwenyn mêl, gwenyn unigol a phryfed hofran yn eu defnyddio amlaf drwy gydol y gwanwyn. Mae pryfyn hofran Cheilosia albitarsis s.l  yn dodwy ei wyau yng ngwaelod blodau ymenyn a gwelir y rhai aeddfed yn aml yn bwydo ar baill a neithdar o’r blodau. Drwy dorri’r borfa’n llai aml gellir annog llygad Ebrill a blodau ymenyn y waun mewn porfa dal os cânt lonydd i dyfu.

Dant y llew (Taraxacum officinale)

Er eu bod yn aml yn cael eu hystyried yn chwyn, mae blodau dant y llew, Taraxacum officinale, yn ffynhonnell fwyd bwysig i bryfed sy’n hedfan. Maent yn tyfu mewn amrywiaeth helaeth o gynefinoedd gan gynnwys dolydd, tir segur ac ar hyd ymyl ffyrdd gan roi sioe o flodau llachar  yn y gwanwyn.  Croesawch flodau dant y llew i’ch lawnt drwy dorri’r borfa yn llai aml, torri‘r borfa ychydig yn uwch neu ddim ond drwy adael iddynt flodeuo rhwng pob toriad. Bydd hynny’n rhoi ffynhonnell hanfodol o neithdar i bryfed yn eich gardd ac yn eu tro yn llesol i’ch llysiau a’ch phanhigion gardd. Os ydych yn pryderu bod yr hadau’n lledu i’ch gwelyau blodau, gallech dorri eu pennau i ffwrdd hyd yn oed. Yn yr astudiaeth hon roedd dant y llew yn denu pryfed hofran a chacwn ond yn cyfannu mwy at ddeiet gwenyn mêl a gwenyn unigol yn y gwanwyn.

Geum

Mae Geum yn fath o blanhigion lluosflwydd rhisomaidd llysieuol a elwir yn gyffredin yn afans. Maent yn cynhyrchu clystyrau llac o flodau siâp soser yn felyn, coch neu oren fel rheol o ddiwedd y gwanwyn i’r haf a chylch o ddail lledwyrdd yn eu cynnal. Gwelwyd bod cacwn, gwenyn mêl a phryfed hofran yn ymweld ag afens yn yr astudiaeth hon ond yn arbennig o boblogaidd gan wenyn unigol ar ddiwedd y gwanwyn. Yn gyffredinol dylid tyfu’r planhigion mewn tir llaith sy’n draenio’n dda yn llygad yr haul neu hanner cysgod. Un math sy’n boblogaidd yw mapgoll glan y dŵr, Geum rivale, sy’n frodorol yn y Deyrnas Gyfunol. Mae gan y planhigyn lluosflwydd hwn sy’n hoffi lleithder ddail isaf gwyrdd llachar, a blodau oren ysgafn sy’n cael eu cynhyrchu o ddiwedd y gwanwyn tan ganol yr haf. Mae mapgoll glan y dŵr yn llwyddo’n dda mewn pridd ffrwythlon sy’n dal dŵr ac yn llygad yr haul neu hanner cysgod. Mae nifer fawr o amrywiaethau ar gael, ond cofiwch ddewis y rhai gyda blodau unigol yn hytrach na blodau dwbl, nad ydynt o fawr o fudd i beillwyr.

Ysgall, Blodau Pengaled a Melynydd (Cirsium/Centaurea/Hypochaeris)

Mae ysgall (Cirsium arvense, C. vulgare, C. palustre), Pengaled (Centaurea nigra) a Melynydd (Hypochaeris radicata) yn flodau cyffredin y ddôl ac yn fwyd gwerthfawr yn ystod yr haf oherwydd yr holl neithdar a’r paill maent yn eu cynhyrchu. Gwelwyd bod y grŵp hwn o blanhigion ymhlith y mwyaf poblogaidd drwy gydol yr astudiaeth, ac yn cael eu defnyddio gan gacwn, gwenyn mêl a phryfed hofran. Ar y cyfan gwelwyd bod gwenyn yn defnyddio Cirsium/Centaurea/Hypochaeris yn amlach na phryfed hofran. Gellir annog y planhigion hyn drwy greu dôl fechan yn eich gardd, drwy wneud y tir yn llai ffrwythlon drwy dorri’r borfa’n gyson a chludo’r toriadau i ffwrdd. Fel arall, mae yna nifer o fathau addurnol poblogaidd o Cirsium a Centaurea y gellir eu defnyddio i ddenu peillwyr, er enghraifft, ysgallen fwyth (Cirsium heterophyllum),ysgallen bluog (Cirsium rivulare), y benlas luosflwydd (Centaurea montana) a glas yr ŷd (Centaurea cyana).

Drain (Rubus fruticosus)

Mae drain yn blanhigion caled iawn sy’n gallu tyfu mewn unrhyw le bron a gallant gymryd trosodd yn eich gardd os na chânt eu rheoli. Mae hyn yn golygu bod nifer o arddwyr ystyried y planhigyn hwn yn niwsans heb wybod ei fod yn bwysig i fywyd gwyll gan ddarparu neithdar a phaill i nifer o bryfed am ei fod yn blodeuo’n hir. Gwelwyd mai drain a ddefnyddid amlaf ar draws yr holl grwpiau a samplwyd yn yr astudiaeth hon (cacwn, gwenyn mêl, gwenyn unigol a phryfed hofran) o ddiwedd y gwanwyn i ddechau’r hydref. Mae mathau addurnol o Rubus nad ydynt yn frodorol yn aml yn ymwthiol, felly cadwch at lwyni ffrwythau brodorol fel mwyar duon, mafon, mwyar Logan a mafonfwyar am amrywiaeth.

Bidens/Coreopsis

Mae Bidens a Coreopsis yn blanhigion gardd o deulu llygad y dydd. Maent yn aml yn felyn neu’n wyn ac yn blodeuo yn ystod yr haf a’r hydref gan ymestyn y tymor blodeuo ar gyfer peillwyr. Yn yr astudiaeth hon roedd cacwn, gwenyn mêl a phryfed hofran yn ymweld â’r blodau’n aml. Ymhlith y rhywogaethau sy’n boblogaidd gan arddwyr mae Bidens aurea (yn y llun) a Coreopsis verticillata, y ddau’n hawdd eu tyfu mewn pridd sy’n draenio’n dda.

Rudbeckia/Helenium

Mae Blodau Pigwrn (Rudbeckia) a Marchalan (Helenium) yn flodau o deulu llygad y dydd sy’n hoffi’r haul gan flodeuo o’r haf i ganol yr hydref. Maent yn hawdd eu tyfu ac yn gwneud orau mewn pridd llaith sy’n draenio’n dda yn llygad yr haul.  Fel rheol mae Rudbeckia lluosflwydd yn felyn ond ceir mathau blynyddol mewn amrywiaeth ehangach o liwiau. Blodau bytholwyrdd sydd gan Helenium sy’n rhoi blodau mewn amrywiol fathau o felyn, oren a choch. Pryfed hofran a gwenyn unigol oedd y peillwyr a welwyd yn ymweld â blodau Rudbeckia/Helenium amlaf yn yr astudiaeth hon.

Angelica/Heracleum

Mae Llysiau’r Angel (Angelica sylvestris) a Heboglys (Heracleum sphondylium) i’w gweld yn gyffredin mewn cloddiau ac ar ymyl ffyrdd drwy’r haf. Mae’r planhigion brodorol yma o deulu’r moron gyda chlystyrau o flodau gwyn mân sydd i’w gweld yn aml yn llwythog o wahanol fathau o bryfed. Yn yr astudiaeth hon nodwyd mai llysiau’r angel a heboglys oedd rhai o hoff blanhigion pryfed hofran drwy’r tymor cyfan. Er bod y planhigion hyn yn dal yn hoff gan wenyn mêl, cacwn a gwenyn unigol, caent eu defnyddio’n llai am na chan y pryfed hofran. Gellir annog llysiau’r angel a heboglys mewn rhannau gwyllt o erddi, ar gloddiau, a dolydd drwy dorri’r borfa’n llai aml. Fel arall, gellir plannu Angelica gigas ac Angelica archangelica fel dewis garddwriaethol.

Ffarwel haf (Aster/Symphyotrichum spp.)

Grŵp o blanhigion yn nheulu llygad y dydd yw ffarwel haf mewn gwahanol fathau o borffor a phinc a nifer o rywogaethau a elwir yn gyffredin yn flodau Mihangel. Maent yn blodeuo o ddiwedd yr haf tan yr hydref gan fod yn ffynhonnell dda o fwyd i beillwyr pan fydd nifer o blanhigion brodorol wedi gorffen blodeuo. Gall y planhigion hyn ddioddef cysgod a thyfu mewn pridd llaith cyn belled ag y gellir cadw ychydig leithder.  Gwelwyd bod  pryfed hofran, gwenyn mêl a chacwn yn ymweld yn yr haf ac roeddent yn ffefryn mawr gan gacwn yn yr hydref. Mae ein canlyniadau’n cynnwys y rhywogaeth Symphyotrichum sy’n ddiweddar wedi ei hail-ddosbarthu oddi wrth aster.

Barf yr Hen Ŵr (Clematis spp.)

Mae Clematis yn blanhigyn dringo poblogaidd mewn nifer o wahanol liwiau. Gellir mwynhau’r blodau drwy’r flwyddyn yn dibynnu ar y rhywogaeth a dyfir, ac mae mathau ar gael sy’n blodeuo yn y gwanwyn, yr haf, yr hydref a’r gaeaf. Yn yr astudiaeth hon gwelwyd mai cacwn, gwenyn mêl a phryfed hofran oedd yn ymweld yn bennaf yn yr hydref. Mae yna gannoedd o wahanol fathau lliwgar i’w cael a fydd yn blodeuo tan fis Medi, er enghraifft Jackmanii’ a ‘Kermesina’.

Os hoffech ychwanegu’r planhigion hyn i’ch gardd, ewch i ganolfan arddio Y Pot Blodyn. Chwiliwch am blanhigion sy’n arddangos ein logo Achub Peillwyr i sicrhau eu bod wedi eu tyfu heb ddefnyddio pryfladdwyr synthetig na chompost mawn.