Canolfan Arddio: Y Pot Blodyn

Gellir dod o hyd i’r Pot Blodyn drws nesaf i’n mynedfa ymwelwyr, y Porthdy

Mae ein Canolfan Arddio Y Pot Blodyn yn gwerthu amrywiaeth eang o blanhigion – rhai ohonynt wedi eu tyfu yma yn yr Ardd Fotaneg – yn ogystal ag amrywiaeth o hadau, bylbiau, anrhegion garddio, potiau ac addurniadau i’r ardd.

Edrychwch am blanhigion sy’n arddangos y logo Achub Peillwyr, sy’n rhan o’n Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr arloesol.  Mae planhigion sy’n arddangos y logo Achub Peillwyr wedi eu tyfu heb ddefnyddio pryfladdwyr synthetig na chompost mawn ac wedi profi eu bod yn cynnal peillwyr gan ein hymchwilwyr gwyddonol.

Mae diodydd oer a phoeth a hufen iâ hefyd ar gael o’r Pot Blodyn.  Does dim tâl i’r Pot Blodyn ac felly gall unrhyw un alw i mewn heb orfod talu i ymweld â’r Ardd.