Anghenion Gwenyn
Yn y wenynfa rydym bob amser yn meddwl am anghenion ein gwenyn, ond yr wythnos hon yw Wythnos Anghenion Gwenyn yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, ac rydyn ni’n ystyried anghenion y gwenyn a’r peillwyr i gyd.
N ddiweddar rydym wedi adeiladu cynefin i beillwyr drwy ailddefnyddio cerflun dathlu’r Ardd Fotaneg yn 20 oed, ac wedi adeiladu clawdd cerrig yn un o’n gwenynfeydd gan ddefnyddio defnyddiau gwastraff. Gobeithio y bydd y rhain yn darparu safleoedd i bob math o greaduriaid nythu a gaeafu.
Fe wyddom o’n gwaith ymchwil ar beillwyr yn yr Ardd Fotaneg ei bod yn well gan wenyn mêl blanhigion mewn cloddiau a mannau gwyllt, daw ein prif gnwd o fêl o’r drain yn rhannau gwylltach yr Ardd Fotaneg.
Mae ein pryfed a’n peillwyr yn prinhau, felly, beth allwn ni ei wneud i helpu?
Mae Defra, ynghyd â’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, wedi llunio rhestr o awgrymiadau, maent yn cynnwys:
- Tyfwch fwy o flodau, llwyni a choed
- Torrwch y borfa’n llai aml
- Peidiwch â tharfu ar fannau lle mae pryfed yn nythu a gaeafu
- Meddyliwch yn ofalus ynglŷn â defnyddio plaladdwyr
Dyma rai awgrymiadau eraill:
- Ceisiwch dyfu planhigion sy’n blodeuo drwy’r flwyddyn. Bydd hyn y creu mwy o ddiddordeb yn eich gardd ac yn darparu bwyd hanfodol i bryfed prysur ar adeg pan nad oes llawer o borthiant o gwmpas, efallai.
- Mae man gwyllt yn rhoi cysgod, safleoedd meithrin a mannau i greaduriaid aeafu heb lawer o darfu arnyn nhw.
- Tyfwch ddôl. Bydd yn rhoi llawer iawn o bleser ichi. Rydw i newydd weld chwilen gwenyn gyntaf ar wmbelog.
- Ceisiwch beidio â nôl y tociwr i gadw cloddiau a chorneli’r ardd yn gymen, rhowch le i’r peillwyr nythu yn y gwanwyn a’r haf, a gadewch y coesau gwag i greaduriaid guddio a gaeafu.
- Prynwch blanhigion wedi’u tyfu heb fawn a phlaladdwyr ar gyfer eich gardd. Edrychwch am logo’r logo’r Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr wrth chwilio am blanhigion i’w prynu yn y ganolfan garddio.
- Mwynhewch 10 munud i sefyll a syllu ar y creaduriaid sy’n mwynhau eich ymdrechion. Byddwch yn synnu mor amrywiol a rhyfeddol tu hwnt yw’r hyn a welwch!
Lynda
Gwenynwraig a Hyfforddwraig Ecosystemau