15 Maw 2021

Prosiect Plannu Coed Ceirios Sakura

Alex Summers

Tra mae’r Ardd Fotaneg wedi bod ar gau i’r cyhoedd, mae ein Garddwriaethwyr wedi bod yn gweithio’n galed i barhau i ddatblygu’r casgliadau botanegol yn barod inni groesawu ymwelwyr yn ôl. Un o’r prosiectau allweddol oedd plannu 100 o goed ceirios Siapaneaidd i ychwanegu at ein Perllan Geirios bresennol a’r Ardd Siapaneaidd gerllaw.

Mae’r coed wedi eu darparu fel rhan o’r Prosiect Sakura ledled y wlad sy’n cael ei drefnu drwy Lysgenhadaeth Siapan i ddathlu’r berthynas ddiwylliannol rhwng Cymru a Siapan. Sakura yw’r gair Siapanaeg am goed ceirios a’u blodau, sy’n cael eu parchu’n fawr yn Siapan oherwydd eu symbolaeth o’r gwanwyn a harddwch a breuder bywyd.

Cafodd ein Tîm Ystâd y dasg o gyflawni’r prosiect, a ddechreuodd ym mis Ionawr drwy gwympo nifer o enghreifftiau gwael yn y Berllan Geirios bresennol i wneud lle ar gyfer y coed newydd, ac i wella ansawdd ein perllan. Ar ôl gwneud y gwaith ar y tir, datblygodd Thomas Campbell, ein Huwch Arddwriaethwr, gynllun plannu i ddangos ar eu gorau y tri math o goed ceirios: Prunus ‘Tai Haku’, Prunus ‘Beni-Yutaka’ a Prunus x yedoensis.

Ar hyd ymyl y llwybr mae rhes hir, grom o Prunus ‘Tai Haku’, a elwir hefyd yn Goeden Geirios Fawr Wen, ac ymhen amser bydd y rhes yn creu llwybr cerdded hardd i gysylltu’r Ardd Siapaneaidd a’r Berllan Sakura gerllaw. Mae gan Prunus ‘Tai Haku’ flodau sengl mawr, gwyn o 5 petal sy’n gallu bod hyd at 6cm ar draws!  Mae cyfuniad o Prunus ‘Beni-Yutaka’, sydd â blodyn hanner-dwbl gwyn/pinc golau a Prunus x yedoensis (Ceirios Yoshino) sydd â blodyn sengl gwyn/pinc golau yn tyfu o’r cornel Gogledd-orllewin gyferbyn â’r Ardd Wenyn tuag at y Rhewdy.

Mae mwyafrif ein coed newydd yn lledu o’r Ardd Siapaneaidd ar draws Bryn y Rhewdy gan greu nodwedd newydd odidog a fydd i’w gweld o’r Porthdy a’r Rhodfa wrth ichi wneud eich ffordd i mewn i’r Ardd Fotaneg. Yn llifo dros wyneb y bryn mae dros 75 o goed wedi’u plannu mewn clystyrau o dair, pump a saith i ddynwared yr odrifau a welir yn gyffredinol mewn natur. Bydd y rhain yn creu golygfa ryfeddol o flodau am flynyddoedd i ddod. Un nodwedd allweddol yw coedlan o 25 o goed Prunus ‘Tai Haku’ ar hyd troed y bryn, a fydd yn eich gwahodd i gerdded drwyddi i fwynhau’r heddwch a’r llonyddwch gan gysgod y blodau ceirios.

Bydd cennin Pedr a chlychau’r gog brodorol sydd eisoes yn tyfu dan y coed yn sicrhau bod y cornel hwn o’r Ardd Fotaneg yn un o uchafbwyntiau’r gwanwyn ac yn tynnu’r sylw o fis Mawrth i fis Mai, i roi profiad rhyfeddol o flodau ac arogleuon gorawenus. Bydd pobl yn mwynhau harddwch y coed hyn hefyd am eu dail haf gwyrdd trwchus sy’n troi’n fôr o liwiau coch a melyn yn yr hydref.

Plannwyd yr holl goed hyn gan ein Tîm Ystâd mewn dim ond wythnos drwy ychwanegu powdwr gwreiddio mycorrhizal a thomwellt rhisgl i roi help llaw i’r coed ceirios sefydlu. Bydd y coed hyn hefyd yn darparu llawer iawn o borthiant i’r gwenyn sy’n byw yma, a byddwch yn gallu mwynhau Mêl yr Ardd sydd ar werth yn ein siop anrhegion. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb yn ôl i’r Ardd Fotaneg, a gobeithio mwynhau blodau’r gwanwyn gyda chi i gyd a haf rhagorol o’n blaenau!