Yr Ardd Japaneaidd
Enw’r ardd Japaneaidd hon yw ‘Sui ou tei’, sy’n cyfeirio at flodau cenedlaethol Japan a Chymru, sef blodau’r geiriosen a chennin Pedr.
Mae’n cyfuno tri arddull gwahanol sydd i’w cael mewn gerddi Japaneaidd traddodiadol: yr ardd pwll-a-bryn, yr ardd sych a’r ardd de. Mae arddulliau gerddi Japaneaidd wedi datblygu dros hanes o 1,400 o flynyddoedd, gyda phob arddull yn dathlu’r tymhorau newidiol mewn ffyrdd gwahanol.
Mae newidiadau o’r fath yn amlygu natur dros dro bywyd, ac mae manylion bach, er enghraifft blagur dail yn agor yn y gwanwyn, yn chwarae rhan bwysig trwy dynnu sylw at dreigl amser.
Yn y 150 mlynedd diwethaf, mae gerddi Japaneaidd wedi cael eu creu ledled y byd a’u haddasu i amodau lleol. Pan fydd ymwelwyr yn neilltuo amser i amgyffred y golygfeydd a geir yn yr ardd, maent yn canfod gwerth y llonyddwch a’r ymdeimlad o dawelwch sydd i’w cael yn y gerddi hyn.
Hanes yr Ardd Japaneaidd
A hithau wedi cael ei llunio yn 2001, dechreuodd yr ardd ei hoes fel Gardd Sioe yn Sioe Flodau Chelsea y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS), gan ennill i’w dylunydd, yr Athro Masao Fukuhara, fedal Aur, ynghyd â’r wobr honno a chwenychir yn fawr, y wobr ‘Gorau yn y Sioe’. Yn rhan o’r ŵyl Japan 2001, cafodd yr ardd ei chydnoddi gan lywodraeth Japan a’r Daily Telegraph.
Awgrymodd llysgennad Japan, Sadayuki Hayashi, y dylid rhoi cartref parhaol i’r ardd ar ôl Chelsea yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a oedd newydd agor. Aeth yr Athro Fukuhara a’i dîm o arddwyr Siapaneaidd ati i ailadeiladu’r ardd yma yn ystod mis Tachwedd 2001.
Erbyn 2017, roedd angen adnewyddu’r ardd. Arweiniwyd y rhaglen adfer gan y Gymdeithas Arddio Japaneaidd, ac fe’i hariannwyd yn rhannol gan lywodraeth Japan. Cafodd atgyweiriadau i’r adeilad, y wal, y llwybrau a’r ffens bambŵ, a gwaith tocio ac ailblannu helaeth, eu cwblhau yn ystod gwanwyn 2019.