15 Rhag 2020

Gwneud Toriadau

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae gwneud toriadau yn ffordd yn ffordd wych o luosogi planhigion newydd.  Mae Hyfforddwr Garddwriaeth Tyfu’r Dyfodol, Ben, wedi ysgrifennu’r canllaw defnyddiol hwn.

Pren caled

Caiff toriadau pren caled eu gwneud yng nghyfnod gorffwys planhigion dros y gaeaf. Yn ddelfrydol byddwch yn gwneud y toriadau hyn yn fuan ar ôl i’r dail ddisgyn neu ychydig cyn i’r blagur ymddangos yn y gwanwyn  Gwreiddiau sy’n tyfu’n araf yw’r toriadau hyn, ond maen nhw’n llwyddiannus iawn.  Yn draddodiadol bydd toriadau pren caled yn cael eu tyfu yn yr awyr gored mewn rhychiau wedi eu paratoi, ond gallant gael eu tyfu’n llwyddiannus mewn potiau. Gwnewch yn siŵr fod digon o raean mewn potiau i ganiatáu traenio da o gwmpas y toriadau.

I wneud y toriadau hyn, dewiswch dyfiant cryf, iach wedi ffurfio yn ystod y flwyddyn gyfredol. Torrwch flaen y toriad, y rhan fwyaf meddal, yn dwt ychydig uwchben blaguryn. Torrwch i ffwrdd o gyfeiriad blaguryn er mwyn i’r dŵr allu rhedeg i ffwrdd, a hefyd i ddangos p’run yw’r pen uchaf. Gwnewch y toriadau tua 15-30cm o hyd a’r toriad isaf ychydig islaw blaguryn.

Trochwch waelod y toriad mewn hormon gwreiddio i helpu’r gwraidd i ffurfio, a rhowch y toriad yn y rhych neu mewn cynhwysydd wedi’i baratoi, ac o leiaf 2 ran 3 o’r toriad islaw lefel y pridd. Gadewch o leiaf 10cm rhwng y toriadau a 45cm rhwng rhychiau.

Gadewch y toriad yn y pridd tan yr hydref dilynol a’i gadw’n llaith yn yr haf i’w atal rhag sychu allan.

Lled-aeddfed

Bydd toriadau lled-aeddfed yn cael eu gwneud rhwng canol yr haf a’r hydref, pan fydd y tyfiant newydd ar y planhigyn wedi dechrau caledu. Wrth wneud y toriadau hyn cofiwch ddewis tyfiant sy’n nodweddiadol o’r planhigyn, heb niwed nac afiechyd arno mewn unrhyw ffordd. Mae’n aml yn well gwneud y toriadau hyn yn y bore i osgoi gwywo, a’u gwneud mor fuan â phosibl ar ôl torri’r pren.

Wrth wneud y toriadau hyn, tociwch bob un i ryw 10-15cm yr un ychydig islaw nod deilen. Tynnwch y dail isaf i ffwrdd a’r blaen meddal, gan adael rhyw 4 deilen fel rheol. Os yw’r dail yn rhai mawr, torrwch nhw yn eu hanner i atal colli lleithder. Ar ôl paratoi’r toriadau, trochwch y gwaelodion mewn hormon gwreiddio gan ysgwyd yr hyn sy’n ormod i ffwrdd a’u gosod mewn cymysgedd potio sy’n traenio’n dda, gan sicrhau bod o leiaf hanner y toriad islaw lefel y pridd.

Rhowch ddigon o ddŵr arnyn nhw a gadael i’r dŵr draenio i ffwrdd. Rhowch y potiau mewn tŷ gwydr, neu awyrgylch lle nad oes rhew a heb fod yn  llygad yr haul. Anaml y bydd angen gwres o dan doriadau a wneir yn yr haf, ond bydd toriadau a wneir yn ddiweddarach yn y tymor yn elwa o gael eu gosod ar fat cynhesu. Cadwch y compost yn llaith ond nid yn wlyb, ac yna bydd y toriadau’n llai tebygol o bydru.  Cadwch lygad ar y toriadau wrth iddyn nhw ddod yn eu blaen gan dynnu i ffwrdd unrhyw rai sydd wedi marw neu’n edrych yn afiach. Bydd angen i’r toriadau hyn gael eu caledu am ddwy neu dair wythnos cyn eu plannu yn yr ardd.

Pren meddal

Gwneir toriadau pren meddal cyn yr haf, pan fydd y tyfiant ar y planhigion yn dal y ffres ac yn ystwyth. Fel o’r blaen, dewiswch flagur iach, nodweddiadol o lwyn yn yr ardd. Torrwch y defnydd oddi ar y llwyn yn ofalus uwchlaw nod deilen i leihau perygl i’r llwyn ei hun farw.

Fel gyda thoriadau lled-aeddfed, torrwch y defnydd islaw nod deilen a thynnwch y dail isaf i ffwrdd. Pinsiwch flaen y tyfiant meddal i ffwrdd i roi toriad rhwng 5 ac 20cm o hyd. Trochwch waelod y toriadau mewn hormon gwreiddio a’u rhoi mewn potiau o gompost sy’n traenio’n dda. Awgrymir defnyddio diblwr pren wrth wneud hyn i leihau perygl niweidio gwaelod y toriad.

Rhowch ddigon o ddŵr arnyn nhw a gadael i’r dŵr draenio i ffwrdd. Wedyn rhowch y potiau mewn ffrâm dyfu i ffwrdd o’r golau a chyda gwres rhwng 18 a 24 gradd Celsius danynt. Gwnewch y siŵr fod y toriadau’n dal yn llaith nes byddant wedi gwreiddio, a ddylai ddigwydd ymhen 4 wythnos.

Ar ôl i’r toriadau wreiddio gadewch iddyn nhw galedu am ychydig wythnosau cyn eu tynnu allan o’r ffrâm dyfu a’u rhoi mewn potiau unigol. Tynnwch unrhyw dyfiant marw neu afiach i ffwrdd ar unwaith a gadael i’r toriadau dyfu’n sylweddol cyn eu caledu a’u plannu yn yr ardd.