19 Awst 2020

Storio Hadau’n llwyddiannus

Kevin McGinn

Gall hadau fod yn ddrud, ac mae arbed rhai eich hun yn cymryd amser, felly mae’n werth ymdrechu i storio’ch hadau’n dda, i’w cadw mor ffres â phosibl nes daw’n amser eu hau.

Ar gyfer y banc hadau yn yr Ardd Fotaneg rydym yn casglu, sychu, glanhau a storio hadau planhigion gwylltion Cymru i’w diogelu ar gyfer y dyfodol ac i adfer ffyrdd o’u defnyddio.

Gall rhai o’r technegau a ddefnyddiwn yn y banc hadau gael eu defnyddio i storio hadau yn y cartref – dyma ichi rai awgrymiadau.

Y ddau amod allweddol ar gyfer storio hadau yw lle sych ac oer. Mae gormod o leithder a gwres yn peri i hadau golli eu grym, a hynny’n annog achosi ffwng i dyfu neu bydru.

Efallai y byddwch yn synnu deall bod tyllau bach mewn hadau, yn cydbwyso â’r lleithder yn yr awyr o’u cwmpas. Ar ddiwrnod oeraidd,  gwlyb pan fydd yr aer yn llaith, bydd hadau’n amsugno lleithder, ac ar ddiwrnod sych byddant yn gollwng lleithder.

Y gamp yw sicrhau bod eich hadau’n hollol sych, ac yna’u cadw’n sych drwy eu storio mewn cynhwysydd sy’n hollol dynn. Gallwch roi nifer o becynnau hadau papur gyda’i gilydd mewn cynhwysydd  mawr.

Mae jar wydr fel y math kilner yn gynhwysydd delfrydol – gyda chaead a sêl rwber a chlamp, maen nhw’n selio’n addas iawn ac yn cael eu ddefnyddio gan nifer o fanciau hadau proffesiynol.

Mae cynwysyddion storio plastig gyda sêl hefyd yn addas, er eu bod yn gadael ychydig aer i mewn (ynghyd â lleithder) ymhen amser. I storio am gyfnod byr mae bagiau gyda sip cloi hefyd yn bosibl, ond byddwn yn awgrymu defnyddio dau fag sip cloi rhag i aer ddod i mewn.

I sugno unrhyw leithdar gormodol gallwch roi ychydig ddefnydd sychu ar waelod eich cynhwysydd storio.

Mae silica sychu yn rhagorol ar gyfer hyn a gallwch ei brynu ar-lein.  Rydym yn argymell silica sychu oren sy’n newid ei liw, gan ei fod yn troi’n wyrdd wrth amsugno lleithder a dangos pan fydd lleithder wedi dod i mewn i’r cynhwysydd storio.  Mae pacedi o silica sychu sy’n cael eu defnyddio wrth bacio eitemau newydd, ac fel rheol yn cael eu taflu i ffwrdd, hefyd yn bosibl.

Mae Clorid calsiwm, sy’n cael ei ddefnyddio mewn systemau tynnu lleithder, yn ddefnydd sychu addas sy’n hawdd ei brynu. Mae sychu reis mewn ffwrn yn ddewis arall an-nhechnegol.

Sychwch y defnydd sychu neu ei adnewyddu bob nawr ac yn y man pan fydd yn mynd yn llaith. Cofiwch y gall aer laith fynd i mewn i’r cynhwysydd bob tro wrth ei agor. Mae storio pecynnau sy’n gallu anadnalu yn y cynhwysydd sydd wedi’i selio yn golygu y gall y defnydd sychu amsugno’r lleithder gormodol o’r hadau.

Yr oergell yw’r lle delfrydol i storio’ch cynhwysydd wedi’i selio – bydd tymheredd isel o ryw 5°C yn arafu’r broses yn yr hadau, gan eu cadw’n ymarferol yn hirach.

Er bod oergelloedd yn fannau llaith iawn (meddyliwch am yr anwedd sy’n ffurfio’n aml o’u mewn), bydd y cynwysyddion tynn yn cadw’r hadau’n sych.  Os na allwch eu storio yn yr oergell, chwiliwch am rywle tywyll ac oer.

Bydd storio hadau fel hyn yn cadw hadau llaith yn ymarferol am ychydig flynyddoedd, er ei bod bob amser yn ddoeth defnyddio hadau mor fuan â phosibl ar ôl eu cynaeafu, gan fod ymarferoldeb hadau’n dirywio o raid ymhen amser.

Mae planhigion yn amrywio o ran pa mor hir mae eu hadau’n dal yn fyw – mae’n well hau hadau panas a chorn melys, er enghraifft, o fewn blwyddyn ar ôl eu cynaeafu, ond gall ffa dringo a letis bara am lawer blwyddyn o gael eu storio’n dda.  Mae gan Garden Organic awgrymiadau da iawn i gadw hadau llysiau.

Fe hoffem weld lluniau o’ch hadau wedi eu storio’n ddiogel – rhannwch nhw gyda ni ar Facebook neu Twitter: @GTFCymru.

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Dr Kevin McGinn, Swyddog Gwyddoniaeth i brosiect Tyfu’r Dyfodol.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.