17 Ebr 2020

Mae’n bryd rhoi’r gorau i fawn

Kevin McGinn

Mae’r prosiect Tyfu’r Dyfodol a garddwriaethwyr yr Ardd Fotaneg wedi bod yn rhoi cynnig ar amrywiol fathau o gompost heb fawn, ac mae’r canlyniadau wedi bod yn gadarnhaol ym mhob agwedd!

Fel garddwr, un o’r pethau gorau y gallwch eu gwneud dros yr amgylchedd yw rhoi’r gorau i ddefnyddio compost mawn. Gallwch dyfu planhigion iach heb ddefnyddio dim mawn. – mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, nifer o erddi botaneg eraill a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn gweithio’n llwyr heb fawn ers llawer blwyddyn.

Efallai ichi roi cynnig ar gompost heb fawn flynyddoedd yn ôl ac wedi’ch siomi, ond rhowch gynnig arall arni. Mae’r diwydiant compost wedi bod yn gweithio’n galed i ddatblygu defnyddiau cynaliadwy eraill llawer gwell yn lle mawn – mae ansawdd a chysondeb y cynhyrchion hyn wedi gwella’n fawr iawn ac mae’r dewis yn cynyddu’n gyson.

Pam mae’n bwysig peidio â defnyddio mawn?

Mae tiroedd mawn yn bwysig iawn i’r blaned. Maen nhw’n cymryd miloedd o flynyddoedd i ffurfio, ond maen nhw’n cael eu sychu a’u cloddio yn eithriadol o gyflym i gynhyrchu compost gardd.

Os ydych chi wedi prynu sachaid o ‘gompost at bopeth’ yn ddiweddar, edrychwch ar y sach – mae’n ddigon posibl ei bod yn cynnwys mawn.

Mae tiroedd mawn yn gynefin sy’n mynd yn gynyddol brin o blanhigion arbenigol a bywyd gwyllt fel planhigion gwlithlys cigysol, plu’r gweunydd, manflewog, migwyn (Sphagnum), gweirloyn mawr y waun ac adar rhydio fel pibydd y mawn. Yng Nghymru, un o’r llefydd gorau i weld y cynefin hwn yw Gwarchodfa Natur Cors Caron ger Tregaron. Daw’r rhan fwyaf o’r mawn a ddefnyddir mewn compost gardd yn y Deyrnas Gyfunol o Iwerddon neu Ddwyrain Ewrop, lle mae cynefinoedd sydd lawn mor bwysig yn cael eu dinistrio.

Pridd organig sy’n llawn maetholion yw mawn ac sy’n cloi llawer iawn o garbon o’i fewn. Dros y byd i gyd mae tiroedd mawn yn storio mwy na dwywaith y carbon sydd yng nghoedwigoedd y byd, ond mae angen i’r mawn aros yn y ddaear a bod dan ddŵr i wneud hynny. Mae sychu a thorri mawn i’w ddefnyddio fel compost gardd yn caniatáu iddo ddadelfennu ymhen amser gan ryddhau carbon deuocsid a methan, sy’n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd..

Mae tiroedd mawn hefyd y dal llawer iawn o ddŵr, felly maen nhw’n bwysig wrth atal llifogydd ac wrth hidlo’r dŵr sy’n dod i’n tai.

Yn ffodus mae compost heb fawn ar gael, ond gall dalu’r ffordd i siopa’n ddoeth.

Defnyddiau heb fawn

Fel rheol caiff compost heb fawn ei wneud drwy gymysgu defnyddiau crai sydd â nodweddion gwahanol. Rhaid i’r cynhyrchwyr ddefnyddio ychydig wyddoniaeth gan fod yn rhaid ystyried ffactorau fel dwysedd, traenio, gallu dal dŵr, cadw maetholion a pH i gyd.  Dyma’r defnyddiau mwyaf cyffredin mewn compost heb fawn:

  • Rhisgl coed wedi’i gompostio: Un o isgynhyrchion y diwydiant coedwigoedd neu dyfu coed. Mae’n draenio’n dda.
  • Coir (ffeibr rhisgl cnau coco): Defnydd gwastraff o’r diwydiant cnau coco gyda gwead clos sy’n dal dŵr yn dda.
  • Ffeibr pren: Un o isgynhyrchion diwydiant neu ddefnydd newydd. Mae’n traenio’n dda gyda gwead agored, ond gall ddal llawer iawn o nitrogen.
  • Gwastraff gwyrdd wedi’i gompostio: Cynhyrchir o wastraff gardd ac weithiau o wastraff bwyd. Adnodd rhad gwych i’w ddefnyddio fel taenfa neu i’w gymysgu gyda phridd/compost arall, ond nid yw gormod ohono’n dda fel compost mewn potiau.
  • Defnyddiau organaidd eraill: Mae’r rhain yn cynnwys rhedyn, gwlân a gwellt wedi’u compostio.
  • Defnyddiau anorganaidd: I wella’r traenio, weithiau defnyddir tywod, graean a’r mwynau perlit a fermicwlit. Weithiau caiff ychydig bridd ei ychwanegu er mwyn i’r compost ddal dŵr neu faetholion yn well.

Cynhyrchion compost heb fawn

Rydyn ni wedi bod yn rhoi cynnig ar amrywiol fathau o gompost heb fawn sydd ar gael i bobl sy’n tyfu gartref, a’r rhain i gyd wedi gwneud yn dda:

  • Coir pur: At gael i’w brynu mewn sachau yn barod i’w ddefnyddio, neu fel byrnau neu friciau sych i’w gwlychu gartref. Mae’n dda fel compost hadau – er nad oes llawer o faetholion ynddo, mae digon o faetholion mewn hadau.
  • Dalefoot: Gwneir hwn yn Ardal y Llynnoedd yn Lloegr o redyn a gwlân defaid wedi’u compostio. Mae digon o redyn yn tyfu yn y Deyrnas Gyfunol a gall fod fel chwyn i ffermwyr, felly byddai toriadau’n mynd yn wastraff fel arall. Dywedir bod gwlân yn dal dŵr yn dda ac yn rhyddhau nitrogen dros gyfnod hir. Mae cymysgeddau eraill ar gael, gan gynnwys ar gyfer planhigion teulu’r grug (sy’n hoffi pridd asidig).
  • FertileFibre: Cyfuniad yn seiliedig ar goir gyda fermicwlit i roi gwead llyfn. Mae cyfuniadau eraill ar gael, gan gynnwys compost hadau ac un â phridd wedi’i ychwanegu.
  • Martin’s TLC: Pridd mwydod wedi’i gynhyrchu ar fferm yn y Gorllewin a choir wedi’i ychwanegu. Mae pridd y mwydod yn ychwanegu maetholion sy’n brin yn y coir fel arall.
  • Melcourt SylvaGrow: Mae compost Melcourt yn boblogaidd iawn i dyfwyr proffesiynol a chaiff ei gymeradwyo gan y Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol. Caiff SylvaGrow ar gyfer tyfu gartref ei wneud o risgl mân, ffeibr pren a choir. Mae Melcourt yn cynhyrchu cyfryngau tyfu eraill, gan gynnwys ar gyfer planhigion o deulu’r grug.
  • Westland New Horizon: Cymysgedd wedi’i ailffurfio, yn bennaf o ffeibr pren a choir.

Rydyn ni hefyd wedi rhoi cynnig ar rai cynhyrchion sydd ar gael i fyd masnach:

Awgrymiadau i dyfu heb fawn

Fel gyda chynifer o bethau, gall newid i ddefnydd newydd gymryd tipyn o addasu. Efallai y bydd angen ichi ddyfrhau ychydig yn fwy rheolaidd. Fodd bynnag, gall cymysgeddau o risgl coed edrych yn sych ar yr wyneb ond bod digon o leithder islaw. Felly defnyddiwch eich bys i sicrhau cyn dyfrhau. Efallai y bydd angen mwy o fwyd ar blanhigion hefyd.

Ar y cyfan mae cynhyrchion sy’n seiliedig ar goir yn well ar gyfer egino am eu bod yn fanach na chyfuniadau sydd â llawer o ffeibr rhisgl neu bren.

Mae pris compost heb fawn yn dueddol o adlewyrchu’r ansawdd. Gall y rhai rhataf gynnwys llawer o wastraff gwyrdd wedi’i gompostio ac yn aml mae’n well eu hosgoi. Ond gallant fod yn iawn os ydych am wella ansawdd eich pridd neu i’w cymysgu gyda phethau eraill i lenwi cynwysyddion mawr.

I gadw costau’n isel, ystyriwch a oes arnoch angen compost yn wir at bob diben, gan arbed eich compost gorau ar gyfer tyfu hadau a symud planhigion i botiau. Pridd gardd fydd y peth gorau i’w ddefnyddio mewn llawer achos. Os byddwch yn tyfu blodau gwylltion, perlysiau a phlanhigion lluosflwydd aeddfed mewn potiau neu wely uchel, mae defnyddio o leiaf ychydig bridd gardd yn beth da.

Gallech hefyd wneud eich cymysgedd eich hun o bridd gardd, tywod a dail wedi pydru – mae Garden Organic wedi cynhyrchu canllaw da. Gallai’r cymysgeddau hyn gynnwys ychydig gompost wedi’i brynu.

Os  oes gennych domen compost, gallwch hefyd ychwanegu compost wedi’i wneud gartref sydd wedi pydru’n dda ar ben eich cymysgedd. Mae compost cartref yn orlawn o faetholion, felly mae’n rhagorol i gyfoethogi pridd mewn gwely llysiau neu forderi blodau, neu i’w gymysgu gyda phridd i dyfu planhigion sydd eisiau llawer o faetholion, fel tomatos. Ond mae’n rhy gyfoethog i hau hadau, a gall gynnwys pathogenau ffwng sy’n effeithio ar blanhigion ifanc a thoriadau.

Os ydych yn aelod o glwb garddio neu ardd gymunedol, gallwch gadw pris compost heb fawn yn is drwy drefnu archebion grŵp yn ôl y llwyth. Mae’r ymgyrch Ebrill Heb Fawn ar Facebook a Twitter wedi cynhyrchu gwybodaeth am archebion grŵp.

Bod yn ofalus wrth brynu

Byddwch yn ofalus o unrhyw gompost gyda label ‘reduced peat’ gan fod y cynhyrchion hyn yn cynnwys hyd at 80% o fawn. Darllenwch y label yn fanwl cyn prynu. Dydy organaidd ddim o reidrwydd yn golygu dim mawn.

Mae yna gompost ar y farchnad wedi’i wneud o fawn wedi’i ‘ailddefnyddio’. Mawn a dail wedi pydru wedi’u carthu o gronfeydd dŵr gan y diwydiant dŵr yw hwn. Ond dydy’r mawn sydd ynddo ddim yn gynaliadwy er hynny – os oedd y tiroedd mawn yn cael eu rheoli’n dda, ni fyddai’r mawn wedi ei erydu a’i olchi i mewn i’r cronfeydd dŵr, felly mae’n well peidio ag annog marchnad ar gyfer y nwyddau hyn.

Mae meithrinfeydd planhigion yn raddol yn derbyn plannu mewn mawn, ond mae llawer o gompost mawn yn dal i gael ei ddefnyddio, felly chwiliwch am blanhigion sydd wedi’u tyfu heb fawn. Mae rhestr hwylus o feithrinfeydd heb fawn ar gael yma.

Rydyn ni’n wir yn falch iawn ein bod wedi dod o hyd i gompost heb fawn sydd ar gael ar gyfer tyfu gartref. Mae yna lawer iawn mwy o gynhyrchion ar y farchnad a’r dewis yn ehangu bob blwyddyn.

Beth am arbrofi eich hun i weld beth sy’n gweithio orau i chi a’r planhigion rydych yn eu tyfu?  Pob lwc gyda garddio heb fawn.