15 Awst 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Awst 09

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Ffair Grefftau’r Haf

Mae’r wledd ysblennydd flynyddol o grefftau cain lleol mewn lleoliad syfrdanol yn yr Ardd i’w gweld yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Awst 12-13.

Bydd Ffair Grefftau’r Haf yr Ardd unwaith eto yn cynnwys stondinau o gynnyrch crefft leol a wnaethpwyd â llaw, y gellir eu canfod yn Nhŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster.

Mae ystod eang a chain o waith yn cael ei harddangos: gemwaith, crochenwaith, mêl, sebonau a wnaed â llaw, canhwyllau cŵyr gwenyn, cwiltio, gwaith coed – a llawer mwy. Bydd Nyddwyr Caerfyrddin yno, a Hebogyddiaeth Sir Benfro ar y Dydd Sul!

Meddai trefnydd y digwyddiad, Steffan John: “ Mae’n hyfryd cael croesawu crefftwyr lleol i’r Ardd, a’u caniatáu i arddangos eu cynnyrch – ac mewn lleoliad mor brydferth hefyd.”

Ychwanegodd: “Yr haf yw’r cyfnod perffaith i ymweld â’r Ardd; mae cymaint i’w fwynhau yno – ewch i Blas Pilipala neu ein maes chwarae newydd, y ddrysfa wellt a rhowch gynnig ar sorbio dŵr hefyd!  Mae atyniad newydd sbon yr Ardd hefyd i’w fwynhau – Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig – gydag arddangosfeydd hedfan dyddiol.”

Mae hi hefyd yn werth cofio y gall unrhywun sy’n prynu tocyn llawn i’r Ardd rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ail-ymweld â’r Ardd AM DDIM yn ystod y saith niwrnod ar ôl ei hymweliad cyntaf – gymaint o weithiau ag y dymunant yn ystod y saith diwrnod hynny.

Mae’r Ardd ar agor rhwng 10yb a 6yh, gyda’r mynediad olaf am 5yp.

Y tâl mynediad i’r Ardd yw £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion, a £4.95 i blant dros 5 oed. Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd, a pharcio am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill, galwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

 

Recordio Blodau Gwyllt

Dewch i recordio’r blodau gwyllt a byddwch yn ein helpu i fonitro eucynefinoedd hollbwysig, o Ddydd Llun 14eg i Ddydd Gwener 18fed o fis Awst.

Bydd y sesiynau o 10yb hyd at 4yp, i gofrestru cysylltwch â Swyddog Treftadaeth yr Ardd, Louise Austin, ar 01558 667178 neulouise.austin@gardenofwales.org.uk

Os na fyddwch yn gallu dod i’r sesiynau hyn, bydd Cofnodi Blodau Gwyllt ymlaen eto o Ddydd Llun 21ain i Ddydd Gwener 25ain o fis Awst.

 

Hwyl dros Wyliau’r Haf

Mae’r ysgolion wedi gorffen am yr haf – ac mae yna weithgareddau i’r teulu BOB dydd o wyliau’r haf yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru!

Gallwch fwynhau’r ddrysfa wellt, rhoi tro ar y sorbio dŵr, chwarae’n ddiddiwedd yn y parc antur, ac ymweld â’r pilipalod trofannol ym Mhlas Pilipala!

Bydd staff Hawk Adventures yma’n cynnig abseilio, dringo coed, neu llinell sip bob Ddydd Mawrth a Mercher o wyliau’r haf.

 

Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig

Mae yna brofiadau anhygoel i’w chael BOB dydd yn atyniad newydd sbon yr Ardd Fotaneg Genedlaethol – Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig – gydag arddangosfeydd hedfan dyddiol am 11:30yb a 2:30yp!

Mae yna dâl ychwanegol o £3 i’r Ganolfan, a gallwch fwynhau arddangosfeydd hedfan gan Gudyll Bach, Barcudiaid Coch, ac Angus, yr Eryr Môr Torwyn!