4 Awst 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Awst 04

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Sioe Cymdeithas Planhigion Cigysol

 

Bydd planhigion llwglyd sy’n cnoi ar bryfed yn cael eu harddangos yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul Awst 5-6.

Mae’r Gymdeithas Planhigion Cigysol yn cynnal y digwyddiad sy’n cynnwys arddangosfa fawr o blanhigion fyw cigysol, stondinau am gyngor arbenigol ar ofal planhigion, gweithgareddau i blant, sgyrsiau arbenigol a phlanhigion ar werth – er mwyn i chi brynu magl Gwener eich hun!

Dywedodd swyddog hyrwyddo am y Gymdeithas Planhigion Cigysol, Ian Salter: “Mae’r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle gwych i arbenigwyr, rheini sy’n frwdfrydig a’r chwilfrydig i bori drwy ein harddangosfeydd o’r planhigion diddorol ac anarferol hyn, cael gwybod sut i’w tyfu a phrynu rhai i fynd adref.  Mae hefyd yn rheswm da iawn arall i ymweld â’r ardd ysblennydd hon.”

Mae’r sioe ymlaen o 10yb hyd at 5yh ar y ddau ddiwrnod.  Mae mynediad i’r Ardd yn £10.50 i oedolion a thocyn teulu (2 oedolyn a hyd at 4 o blant) yn £25.  Nid oes yna dâl ychwanegol i’r sioe planhigion cigysol.

Am wybodaeth am y digwyddiad hwn, neu unrhyw ddigwyddiad arall sy’n cael eu cynnal yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol e-bostiwchinfo@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.

Sefydlwyd y Gymdeithas Planhigion Cigysol yn 1978 ac mae’n sefydliad elusennol sy’n ymroddedig i hyrwyddo planhigion cigysol yn y gwyllt, drwy gadwraeth ac addysg.  Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefanwww.thecps.org.uk

 

Band Chwyth Symffonig Caerfyrddin

Bydd Band Chwyth Symffonig Caerfyrddin yn perfformio yn y Tŷ Gwydr Mawr ar Dydd Sadwrn, Awst 5ed.  Bydd y band yn chwarae o 1:30yp hyd at 4yp, gydag egwyl 20 munud.

Bydd y perfformiad hefyd yn cynnwys yr unawdydd Emma Britton, a’r grŵp canu Frenzaloud.

 

Ffair Grefftau’r Haf

Mae’r wledd ysblennydd flynyddol o grefftau cain lleol mewn lleoliad syfrdanol yn yr Ardd i’w gweld yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Awst 12-13.

Bydd Ffair Grefftau’r Haf yr Ardd unwaith eto yn cynnwys 30 o stondinau o gynnyrch crefft leol a wnaethpwyd â llaw, y gellir eu canfod yn Nhŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster.

Mae ystod eang a chain o waith yn cael ei harddangos: gemwaith, crochenwaith, mêl, sebonau a wnaed â llaw, canhwyllau cŵyr gwenyn, cwiltio, gwaith coed – a llawer mwy. Bydd Nyddwyr Caerfyrddin yno, a Hebogyddiaeth Sir Benfro ar y Dydd Sul!

 

Gwyfyn Atlas

Dewch i weld yr Attacus atlas rhyfeddol ym Mhlas Pilipala ar hyn o bryd!  Yn ogystal â’r pilipalod trofannol anhygoel a lliwgar eraill!

Daw’r gwyfyn Atlas o goedwigoedd trofannol de-ddwyrain Asia, nad oes ganddynt unrhyw gegau, gall eu hadenydd gyrraedd dros 25cm, ac mae’n rhaid iddynt baru a dodwy wyau cyn iddynt farw o fewn 5 diwrnod yn unig.

 

Hwyl Gwyliau’r Haf

Mae’r ysgolion wedi gorffen am yr haf – ac mae yna weithgareddau i’r teulu BOB dydd o wyliau’r haf yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru!

Gallwch fwynhau’r ddrysfa wellt, rhoi tro ar y sorbio dŵr, chwarae’n ddiddiwedd yn y parc antur, ac ymweld â’r pilipalod trofannol ym Mhlas Pilipala!

Bydd staff Hawk Adventures yma’n cynnig abseilio, dringo coed, neu llinell sip bob Ddydd Mawrth a Mercher o wyliau’r haf.

 

Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig

Mae yna brofiadau anhygoel i’w chael BOB dydd yn atyniad newydd sbon yr Ardd Fotaneg Genedlaethol – Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig – gydag arddangosfeydd hedfan dyddiol am 11:30yb a 2:30yp!

Mae yna dâl ychwanegol o £3 i’r Ganolfan, a gallwch fwynhau arddangosfeydd hedfan gan Gudyll Bach, Barcudiaid Coch, ac Angus, yr Eryr Môr Torwyn!

 

Disgownt ar doll Bont

Bydd tollau’r Bont Hafren yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn nesaf, ond oeddech chi’n gwybod y gallwch chi eisoes adennill y gost o groesi’r bont gydag ymweliad â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru?

Ond awr i’r gorllewin o Gaerdydd ac ychydig o funudau o’r briffordd M4/ A48 De Cymru, mae’r Ardd Fotaneg yn cynnig disgownt o gost eich toll Pont Hafren, ar fynediad i’r atyniad yn Sir Gaerfyrddin.

Gall dau o bobl yn talu pris llawn hawlio’u gostyngiad o £6.70 wrth gynhyrchu derbynneb o’u Hail Daith Drosodd y Bont Hafren.

Dywedodd Pennaeth Adran Marchnata’r Ardd, David Hardy: “Dyma’r lleiaf y gallwn ei gwneud.  Mae llawer o bobl yn gweld y tollau fel treth ar dwristiaeth am nid yw’n annog ymwelwyr, a dyna pam rydym yn rhoi’r cynnig hyn – ac mae diwedd y flwyddyn nesaf yn dal i fod yn bell i ffwrdd sy’n golygu mae digon o amser i hawlio eich gostyngiad.

* Mae’r gostyngiad ar fynediad i’r Ardd Fotaneg ond yn berthnasol i ddau neu fwy o bobl yn talu’r pris mynediad llawn i oedolion.  Mae’r cynnig ond yn berthnasol i docynnau dilys a roddwyd i gerbydau Categori Cerbyd 1.  Rhaid i docynnau toll Pont Hafren gael eu dyddio o fewn mis o’ch ymweliad i’r Ardd.  Ni gall cael ei defnyddio ar y cyd ag unrhyw gynnig arall.  Dim llungopïau.