26 Ion 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Ionawr 26

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Dyma gylchlythyr diweddaraf yr Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

 

Trysorau Cymreig yn yr Ardd

A treasure trove of the unusual and unique with a strong Welsh flavour is set to transform the National Botanic Garden of Wales, as the Derwen Antiques Fair prepares to return.

Antiques, collectables, retro and vintage will take centre stage among the rare and endangered blooms at the Carmarthenshire attraction on January 28 and 29.

The Derwen Fairs flagship event has increased from just 23 stalls in the early days, to more than 100 dotted around the site including Theatr Botanica, the Garden Marquee and the impressive Regency-era Principality House.

Visitors can view Welsh art, Welsh pottery and Welsh oak furniture among the Mediterranean plants in Lord Norman Foster’s Great Glasshouse, and a vintage market will take over the entire courtyard.

Organiser Brita Rogers said: “There are fewer antique fairs in Wales these days. We want to cater for everyone, from those interested in collecting traditional antiques to others looking for something a bit retro. We thought we would go with the times.”

A large range of country pine furniture, rare books, Treen and Ewenny pottery will be on show along with taxidermy and the exotic. The Vintage Market houses smaller marquees showing off vintage toys, clothing and retro furniture plus numerous up-cycled furniture and quirky items.

Brita added: “The fair will showcase Welsh areas of collecting including Welsh pottery, Welsh art and furniture. Richard Bebb will be displaying a rich array of Welsh paintings including artists such as Kyffin Williams. Welsh textiles will also be a main feature at the fair. There will be a huge range of welsh tapestry blankets on display with their extensive colour range and intrinsic patterns.”

A selection of militaria stands will display unusual items, including rare medals, military swords and vintage fire arms. From furniture to fishing reels, Persian carpets to exquisite jewellery, most areas of collecting will be included, plus some rare items.

One important collection to be showcased is an interesting collection of Wemyss ware. This line of pottery hailed from Kirkcaldy in Fyfe, Scotland and is popular with collectors, with some rarer items commanding four figure sums. BBC TV’s Bargain Hunt programme recently filmed their at the Botanic Garden fair, with one contestant picking a rare Wemyss piece decorated with a daffodil to take to auction. Helen and Alistair, who sold the pot, are back to display their impressive Wemyss collection, including a rare heart-shaped inkwell.

The Garden and the fair are open from 10am to 4.30pm (last entry is 3.30pm). Admission to the garden is £3, with free parking.

For more information about this event and other Garden events, call 01558 667149, visit our website, or email info@gardenofwales.org.uk 

For more info about Derwen Antiques, visit www.derwenantiques.co.uk

 

Cadw’n Heini Am Ddim

Dyma’ch wythnos diwethaf i roi cynnig ar lwybrau ‘Cadw’n Heini Am Ddim‘ yr Ardd, yn ogystal â mynediad AM DDIM ar ddiwrnodau’r wythnos.

Mae’r Ardd wedi creu cyfres o lwybrau ar draws y safle – rhai ar lwybrau gwastad yn addas i rodwyr, pramiau a chadeiriau olwyn gyda rhai sy’n fwy garw, gyda llwybrau garw o gwmpas yr ystâd a heibio’r rhaeadr.

Pa well ffordd i brofi’ch teclynnau heini newydd, i ddod o hyd ac i ysgwyd y llwch oddi ar eich FitBit y gwnaethoch gael y Nadolig diwethaf i glocio nifer fawr o gamau.

Mae’r amrywiaeth o lwybrau yma wedi cael eu marcio’n glir, ac mae map am ddim i’ch tywys ar eich taith – gall y map hefyd cael ei lawr lwytho o’n gwefan os hoffech chi ei gweld o flaen llaw.

Mae gan bob llwybr cyfradd ‘teisen gwpan’ sy’n cyfeirio at y radd o anhawster.

Gwelwch darn ar y llwybrau yma ar raglen ‘Heno‘ S4C yma.

Os gallwch ymweld â’r Ardd ar benwythnosau’n unig, peidiwch â phoeni, mae mynediad ond yn £3 ar Ddiwrnodau Sadwrn a Sul yn ystod mis Ionawr.

 

★ Parti’r Sêr ★

Bydd Cymdeithas Seryddol Abertawe yn cynnal y digwyddiad syllu ar y sêrnesaf ar Ddydd Sadwrn, Chwefror 3ydd, rhwng 6-9yh.

Mae’r syllu, gan gynnwys sgwrs, yn digwydd o du mewn ac o amgylch y Tŷ Gwydr Mawr, lle, os bydd yr awyr yn glir, gellwch weld yr alaeth agosaf atom ni, Andromeda.  Bydd yna hefyd arddangosfeydd, sgyrsiau a thelesgopau yn syllu ar awyr y nôs.  Bydd yna glinig telesgop felly os wnaethoch chi gael telesgop newydd am y Nadolig, dewch ag e gyda chi i ddysgu sut i gael y defnydd gorau allan ohono.

Mynediad yn £3, plant o dan 16 am ddim.

 

Penwythnos y Lili Wen Fach

Bydd eirlysiau’n dwyn y sylw i gyd ar benwythnos arbennig sydd yn canolbwyntio ar y blodyn pert, meindlws hwn sy’n gennad i’r Gwanwyn – i’w gynnal yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Chwefror 4ydd & 5ed.

Bydd yr arbenigwraig garddwriaethol, Naomi Slade, yn arwain y dathliad dau ddiwrnod, ac yn ein tywys ar daith o amgylch prif leoliadau’r eirlysiau yn yr Ardd.

Mae llwybr hunan-arweiniol o amgylch y prif leoliadau i weld yr eirlys ar gael i ymwelwyr yn y cyfnod sy’n arwain at y digwyddiad hwn, yn ogystal â’r y 4ydd a’r 5ed.

 

Diwrnod i Chi a’r Ci

Bydd y Dydd Llun sydd ar ddod yn gweld yr Ardd yn croesawu ymwelwyr a’u cŵn unwaith eto.

A gan ei fod yn ddiwrnod o’r wythnos ym mis Ionawr, bydd mynediad yn rhad ac AM DDIM!

Rhaid i gŵn fod ar dennyn di-estynadwy trwy’r amser, ac oherwydd y planhigion a philipalod prin a gwerthfawr, ni chaniateir cŵn tu fewn i Blas Pilipala.

Yn dilyn galw mawr, mae dyddiadau arbennig wedi’u neilltuo yng nghalendr perchnogion cŵn ar gyfer Penwythnosau i Chi a’r Ci yn yr Ardd.  Peidiwch ag anghofio, trwy’r gaeaf – mae pob Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci!

Dydd Mercher Mwdlyd

Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o hwyl a sbri, gweithgareddau yn yr awyr agored, adrodd straeon ac archwilio ar gyfer plant bach o dan oed ysgol, ac yn gyfle arbennig i rieni fynd â’u plantos yn agos at natur yn y dŵr a’r mwd – byth bynnag fo’r tywydd!

Mae’r gweithgareddau yn dechrau o’r Porthdy, mae yna dâl mynediad arferol i oedolion ac mae plant o dan 5 mlwydd oed am ddim.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg ar 01558 667150.