Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth a dawnsio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Mae Twmpath yn ddawns ysgubor draddodiadol Gymreig sy’n cynnwys band gwerin byw a galwr. Byddai’r dawnsfeydd yn digwydd ar draws neuaddau pentref yng Nghymru gan ddod â chymunedau at ei gilydd.
Perfformio a galw’r Twmpath fydd ‘Jac Y do’. Ffurfiwyd y band yn 1987 yn Nyffryn Aman ac maent yn un o fandiau gwerin fwyaf blaenllaw Cymru. Mae’r band wedi perfformio ar draws y byd ac rydym yn gyffrous i’w cael nhw i berfformio yma yn yr Ardd o’r diwedd.
Mae’r digwyddiad hwn yn sicr o fod yn noson fywiog ac egniol. Erioed wedi mynychu Twmpath o’r blaen? Peidiwch â phoeni, mae’r noson yn addas ar gyfer pob oedran a gallu. Ddim eisiau dawnsio? Does dim rhaid i chi, dewch draw i wrando ar y gerddoriaeth a mwynhau’r bwyd a’r awyrgylch.
Mae tocynnau yn £10 i oedolion a £6 i rai dan 16 oed.
Mae Gostyngiad o 10% ar gael i Aelodau. Atgoffir aelodau i ddod â’u cardiau aelodaeth i ddilysu tocynnau am bris gostyngol.
Digwyddiad awyr agored yw hwn a bydd yn cael ei gynnal yng nghanol yr Ardd ar sgwâr y Mileniwm. Darperir byrddau a chadeiriau ond rydym yn croesawu ymwelwyr i ddod â’u cadeiriau neu rygiau picnic eu hunain. Os bydd glaw trwm bydd y digwyddiad hwn yn cael ei symud i’r Thatr Botanica.
Mae’r gatiau’n agor am 6.00yp.