Trin Trychfilod gyda Bugfest

Sad 19 Medi 2026 10yb - 4yh
Am Ddim - Gyda Mynediad

Rydym yn falch iawn o ymuno â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i ddod â chasgliad o fânfwystfilod egsotig anhygoel Bugfest, sydd wedi ennill gwobrau, i’r Ardd.

 

Dewch yn agos at amrywiaeth ryfeddol o greaduriaid, gyda’r cyfle i drin llawer ohonynt yn ddiogel a darganfod pam maent mor bwysig i’n byd. 

Bugfest yw darparwr addysg entomoleg arbenigol hynaf y DU, gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn cyflwyno gwyddoniaeth pryfed mewn ffordd fywiog, ryngweithiol ac addysgiadol i ymwelwyr o bob oed. Mae eu tîm arbenigol yn gwneud byd rhyfeddol yr infertebratau yn hygyrch ac yn ddifyr i’r teulu cyfan, gan dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae’r arwyr bach hyn â’u coesau niferus yn ei chwarae wrth gadw ein planed yn iach. 

Dewch i gwrdd â chasgliad arbennig o greaduriaid, gan gynnwys pryfed brigyn, chwilod duon, miltroediaid, tarantylâu, pryfed cop sy’n bwyta adar, sgorpionau a llawer mwy – creaduriaid na fyddech fel arfer ond yn eu gweld ar y teledu. 

Cewch hefyd wylio chwilod tom yn brysur yn ailgylchu gwastraff natur – golygfa hynod ddiddorol ac annisgwyl! 

Ac os nad yw hynny’n ddigon, dewch wyneb yn wyneb â’r morgrug bwled enwog a’r cantroediaid enfawr yng ngofal Bugfest, a ddaeth yn enwog drwy raglen Deadly 60 Steve Backshall.  

 

Mae’n brofiad cyffrous na fyddwch yn ei anghofio ar frys. 

 

 

Am ddim gyda Mynediad i’r Ardd – Dim Angen Archebu