‘The Wild and Deadly Show’ gyda Bugfest

Gwen 30 Hyd 2026 10yb - 4yh
Am Ddim - Gyda Mynediad

Mae Bugfest yn dychwelyd i’r Ardd ar 30 Hydref gyda phrofiad cyffrous dan do i deuluoedd a phobl chwilfrydig o bob oed yn y Theatr. 

 

Mwynhewch The Wild and Deadly Show – perfformiad byw llawn cyffro sy’n addas i’r teulu cyfan ac sydd ar hyn o bryd yn teithio prif barciau gwyliau a theatrau ledled y DU.

Disgwyliwch lond lle o eiliadau “waw” wrth ichi ddod wyneb yn wyneb â rhai o fânfwystfilod mwyaf rhyfeddol y byd. Yn llawn cyfarfyddiadau anhygoel ag anifeiliaid, pytiau difyr o wyddoniaeth a ffeithiau hynod ddiddorol, mae’r sioe’n dathlu’r rôl hollbwysig y mae’r creaduriaid hyn, sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, yn ei chwarae wrth gadw ein planed yn iach. Mae’n addysgiadol, yn ddifyr ac yn llawn hwyl, gan gyflwyno neges bwysig am gadwraeth mewn ffordd sy’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd o bob oed ac sy’n hawdd ei deall.

Cyflwynir y sioe gan Gymrawd Etholedig o’r Gymdeithas Entomolegol Frenhinol, cyn-athro a hyfforddwr athrawon, cyflwynydd ac adlonwr proffesiynol, ac aelod o Equity. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad ym maes addysg wyddonol a pherfformio byw, mae’n dod â chyfoeth o wybodaeth, brwdfrydedd a hiwmor i bob perfformiad, gan wneud byd rhyfeddol pryfed ac infertebratau yn brofiad cofiadwy ac ysbrydoledig i’r teulu cyfan.

Rhwng y perfformiadau, bydd tîm Bugfest wrth law gyda chasgliad arbennig o fânfwystfilod egsotig, gan roi’r cyfle i ymwelwyr ddod yn agos at y creaduriaid anhygoel hyn a thrin llawer ohonynt yn ddiogel.

Amseroedd y sioeau

  • 11:00yb – 12:00yp
  • 1:00yp – 2:00yp
  • 3:00yp – 4:00yp

Bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i gwrdd â’r anifeiliaid a mwynhau profiadau ymarferol cyn y sioe gyntaf ac yn ystod yr egwyl rhwng pob perfformiad, gan wneud hwn yn ddiwrnod gwych i ddarpar entomolegwyr ac i’r teulu cyfan.

 

Am ddim gyda Mynediad i’r Ardd – Dim Angen Archebu