Darganfyddwch waith mewnol Adran Wyddoniaeth yr Ardd Genedlaethol Botaneg Cymru ar y daith tu ôl i’r llenni arbennig yma.
Archwiliwch yr Herbariwm – sy’n gartref i ryw 30,000 o sbesimenau o blanhigion wedi eu gwasgu, gan gynnwys casgliad hanesyddol o fflora Prydeinig ac Iwerddon, a chlywch am ein prosiect digideiddio a ariennir gan y Loteri Genedlaethol sy’n dod â’r sbesimenau hyn ar-lein.
Ewch ymlaen i Fanc Hadau Cenedlaethol Cymru, sy’n gartref i hadau o gannoedd o rywogaethau blodau Cymru. Dysgwch sut yr ydym yn casglu, glanhau a storio hadau ar gyfer cadwraeth hirdymor, gan sicrhau goroesiad y rhywogaethau hyn am ddegawdau i ddod.
Mae’r daith unigryw hon yn rhoi mynediad i labordai, archifau ac ardaloedd ymchwil ein Canolfan Wyddoniaeth—mannau nad ydynt fel arfer ar agor i ymwelwyr.
Dyddiadau:
Dydd Mercher 15 Aprill | 2 – 3yp
Dydd Mercher 6 Mai | 2 – 3yp
Dydd Mercher 10 Mehefin | 2 – 3yp
Tocynnau:
£8 Mynediad cyffredinol / £7.20 i aelodau
Lleoliad:
Adeilad Gwyddoniaeth
Ar gyfer gofynion hygyrchedd, mae’r Herbariwm ar y llawr gwaelod a’r Banc Hadau ar y llawr uchaf. Mae lifft yn yr adeilad y gellir ei ddefnyddio.