Darganfyddwch ochr gudd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar ôl iddi dywyllu!
Ymunwch â ni ar daith gerdded hynod ddiddorol gyda fflachlamp UV a darganfod beth sy’n dod yn fyw dan olau uwchfioled. O ffyngau a chennau disglair i drysorau fflwroleuol annisgwyl, gwelwch y Gerddi mewn ffordd hollol newydd wrth i ni chwilio am liwiau cyfrinachol natur.
Darperir fflachlampau UV a gogls amddiffynnol.
Dewch â fflachlamp arferol a gwisgwch yn briodol ar gyfer noson ym mis Hydref.
16+
18:30–20:30
Mynediad i’r Gerddi o 6yp