Ymunwch â ni am ddwy noson arbennig o siopa hwyr yn ein digwyddiad Manwerthu Nadoligaidd, rhwng 5pm ac 8pm ddydd Gwener 11eg a dydd Sadwrn 12fed Rhagfyr.
Ewch ati i gwblhau eich siopa Nadolig, dewch o hyd i’r anrhegion munud olaf hynny a mwynhewch rai danteithion Nadoligaidd ar hyd y ffordd!
Beth sy’n digwydd?
- Siopa Nadolig Hwyr y Nos – mwynhewch ostyngiadau arbennig ar draws ein hystod o gynnyrch manwerthu, yn berffaith ar gyfer dod o hyd i’r anrhegion Nadolig arbennig hynny.
- Blasu Zoo Brew Co – galwch heibio i Oriel i ddarganfod detholiad o ddiodydd alcoholig blasus gan Zoo Brew Co.
- Bwyta gyda’r Nos yn y Caffi – bydd ein caffi yn cael ei drawsnewid yn fwyty am y noson, gan gynnig bwydlen set arbennig.
Archebion Bwrdd ar Gael – gwnewch noson ohoni a mwynhewch bryd o fwyd hamddenol. Mae modd archebu bwrdd ar gyfer nos Wener 11eg a nos Sadwrn 12fed Rhagfyr. I archebu bwrdd, ffoniwch 01558 667141.
P’un a ydych yn cwblhau’r eitemau olaf ar eich rhestr Nadolig, yn mwynhau sesiwn flasu neu’n ymuno â ni am ginio gyda’r nos, mae digon i wneud eich noson yn un arbennig.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu!
MYNEDIAD AM DDIM – Nid oes angen archebu ymlaen llaw. (o 5yp)