Gweithdy Meddyginiaethau Llysieuol y Gaeaf

Mer 21 Hyd 2026 10:30yb - 1:30yh Archebwch yma

Crëwch eich meddyginiaeth aeaf eich hun – Finegr Tân (Fire Cider) – wedi’i gynllunio i gefnogi eich imiwnedd a’ch iechyd cyffredinol wrth inni symud i mewn i’r misoedd oerach. Dewiswch o amrywiaeth o gynhwysion cegin a pherlysiau i greu Finegr Tân sy’n unigryw i’ch chwaeth, gan seilio’r rysáit ar y fersiwn sylfaenol. Disgwyliwch greu rhywbeth poeth, sbeislyd a blasus! 

Darganfyddwch darddiad Finegr Tân, gan fynd yn ôl cyn belled â chyfnod y Pla! 

Dysgwch pam ei fod yn rhan hanfodol o’r gaeaf yng ngheginau llysieuwyr meddyginiaethol a’r rhai sy’n hoff o greu eu ‘meddyginiaeth gegin’ eu hunain. 

Archwiliwch sut mae pob un o’r cynhwysion mor dda i ni. 

Byddwn hefyd yn mynd am dro yn yr Ardd Apothecari i weld beth allwn ni ei ddarganfod yr adeg hon o’r flwyddyn, gan chwilio am ysbrydoliaeth lysieuol. 

Mae’r holl gynhwysion a’r jariau wedi’u cynnwys.

 

Yn cynnwys Mynediad i’r Ardd.