Gweithdy Lliwio Bwndel gyda Natur

Sad 18 Gorff 2026 1:15yh - 2yh Archebwch yma

Wedi’i redeg gan Makepeace Studio

Darganfyddwch ddull cyfoes o grefft hynafol lliwio bwndel wrth i ni ddefnyddio llifynnau planhigion naturiol i greu printiau hardd ar frethyn. Rhowch gynnig ar greu patrymau gan ddefnyddio planhigion a deunyddiau naturiol – gweld pa liwiau allwch chi eu cael a chreu darn unigryw i’w gasglu a’i gymryd adref ar ddiwedd y dydd.

Addas i’r teulu cyfan. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Bydd pob sesiwn yn para tua 45 munud, a byddwch yn dychwelyd yn ddiweddarach yn y dydd i gasglu eich dyluniad gorffenedig ar ôl iddo gael amser i ddatblygu.

Lleoliad: Clwb Gwenyn Gwyllt (gyferbyn â’r bwyty)
Am ddim gyda mynediad.