Ymunwch â Hayley i greu eich set eich hun o gardiau Nadolig linoargraffu unigryw i’w hanfon at eich anwyliaid.
Neilltuwch ychydig o amser i chi’ch hun ymlacio a dysgu sgil newydd mewn awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar.
Darperir yr holl ddeunyddiau sydd eu hangen i greu set o 8 cerdyn Nadolig maint A6, ynghyd ag amlenni.
Nid oes angen unrhyw brofiad; mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr llwyr, yn ogystal â’r rhai sydd wedi rhoi cynnig ar linoargraffu o’r blaen!
Darperir lluniaeth a mins peis.
Grŵp bach (uchafswm o 10) er mwyn sicrhau bod pawb yn cael digon o arweiniad – felly mae’r lleoedd yn gyfyngedig iawn!
Ewch adref yn llawn hwyl yr ŵyl, gyda’ch cardiau unigryw yn barod i’w postio a’ch sgiliau argraffu newydd sbon.
Yn cynnwys mynediad i’r Gardd.