Gweithdy Blodau Ceramig

Sad 26 Medi 2026 11yb - 3:30yh Archebwch yma

Dewch draw i wneud a phaentio 5 blodyn ar gyfer eich tusw eich hun! Bydd y blodau’n cael eu tanio a’u gwydro, a gwiail gwifren yn cael eu gosod ynddynt, yn barod ar gyfer eich fâs. Bydd y blodau’n barod i’w casglu ymhen 5 wythnos.
Mae’r pris yn cynnwys mynediad i’r ardd am y diwrnod cyfan.