Mae FestAfal yn ôl yr Hydref yma!
Ar ôl llwyddiant digwyddiad y llynedd, bydd Festafal yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cael ei chynnal eto eleni ar 19 a 20 Hydref.
Mae Festafal yn gyfle i ddathlu ein Perllan Gymreig a’i chasgliad o afalau. Bydd yn cofleidio’r afal, ei ddefnyddiau, y cynhyrchion sy’n deillio ohono a’i gysylltiadau ehangach â diwylliant Cymru.
Ymunwch â ni ar y penwythnos i bori drwy ddetholiad gwych o gynhyrchwyr bwyd a diod Gymreig, crefftwyr a busnesau lleol, gweithgareddau plant, gweithdai crefftio, blasu ac adnabod afalau, cerddoriaeth fyw a llawer mwy.
Mwy o wybodaeth i ddilyn yn fuan.