Profwch ddwy grefft wledig draddodiadol mewn un gweithdy ymarferol.
Yn ystod y dydd, byddwch yn dysgu technegau gosod gwrychoedd ac yn casglu deunydd pren addas, cyn tanio ein hodyn siarcol i gynhyrchu siarcol o ansawdd uchel. Mae’r cwrs hefyd yn ymdrin â rheoli coetiroedd yn gynaliadwy a thrin offer a deunyddiau yn ddiogel.
Bydd pob cyfranogwr yn mynd adref gyda bag o siarcol a ffon gerdded wedi’i gwneud â llaw o ddeunydd o’r gwrych neu’r coetir.
Yn cynnwys: Cinio a lluniaeth
Lleoliad: Fferm Pantwgan