Mae’r cwrs hygyrch hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr a’r rhai sydd am wella eu sgiliau, gan gyflwyno crefft draddodiadol gosod gwrychoedd.
Treuliwch y diwrnod ar y fferm yn dysgu’r ddamcaniaeth a’r technegau ymarferol sy’n sail i’r sgil wledig bwysig hon, sy’n helpu i adfywio ac adfer cynefinoedd gwrychoedd gwerthfawr.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn dysgu am hanes a phwysigrwydd gosod gwrychoedd, yn cael profiad ymarferol o ddefnyddio dulliau traddodiadol, yn dysgu sut i ddefnyddio’r offer cyffredin angenrheidiol yn ddiogel, ac yn deall y rôl y mae gwrychoedd yn ei chwarae mewn amaethyddiaeth fodern ac mewn bioamrywiaeth.
Ar ddiwedd y dydd, byddwch yn mynd â’ch ffon gerdded eich hun adref – ffon sydd wedi’i thorri a’i siapio o’r gwrych.
Mae’r cwrs hwn yn rhan o’n rhaglen ehangach Sgiliau Gwledig, sy’n ymdrin â sgiliau gwledig ymarferol ac iechyd anifeiliaid.
Yn cynnwys: Cinio a lluniaeth
Lleoliad: Fferm Pantwgan