Torri coed yn ôl

Sad 09 Ion 2027 10yb - 5yh Archebwch yma

Darganfyddwch y grefft goedwigol hynafol o dorri coed yn rheolaidd (neu ‘coppicing’) a dysgwch sut mae’r dechneg reoli draddodiadol hon yn cefnogi adfywiad iach y goedwig. 

Mae’r gweithdy’n ymdrin â hanes y broses hon, nodi rhywogaethau coedwigol addas, defnyddio offer yn ddiogel, technegau ymarferol, yn ogystal ag adfywio’r goedwig a’i rheoli yn y tymor hir. 

Mae’r cwrs ymarferol hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rheoli coedwigoedd, cadwraeth neu sgiliau gwledig traddodiadol.

 

Yn cynnwys: Cinio a lluniaeth 

Lleoliad: Fferm Pantwgan 

Upcoming Dates

  1. Sad 09 Ion 2027
    10yb - 5yh
  2. Sad 23 Ion 2027
    10yb - 5yh