Ymunwch â ni yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am brofiad theatr awyr agored hudolus. AM DDIM gyda mynediad i’r ardd!
I lawr ar waelod yr ardd, rhwng y caws llyffant a’r pwll bach rhyfedd, mae’r Coblynnod yn byw… Criw bach gwyllt o gorachod hudolus yn achosi anhrefn a drygioni! Un diwrnod maen nhw’n dod ar draws dieithryn wedi’i orchuddio â llwch glo, ond pwy ydyw o ac o ble y daeth? Allwch chi eu helpu nhw ar eu taith i ddarganfod y gwir?
Dathliad teulu-gyfeillgar o lên gwerin Cymru, yn llawn anhrefn chwedlonol, creaduriaid chwilfrydig, cerddoriaeth, caneuon a dawns werin. Wedi’i gyflwyno i chi gan Kitsch & Sync Collective, Hijinx a Theatr Iolo.
Mae hon yn sioe weledol iawn sy’n cynnwys rhywfaint o’r iaith Gymraeg ac sy’n addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg a phobl nad ydynt yn siarad Cymraeg.
Pryd:
Dydd Gwener 14 Awst 12.30pm a 2.30pm
Dydd Sadwrn 15 Awst 12.30pm a 2.30pm
Dau berfformiad bob dydd
Pris:
Am ddim gyda mynediad i’r ardd
Dewch â chadair wersylla neu ryg picnic ac ymgartrefwch ar gyfer y sioe. Bydd popgorn, hufen iâ a diodydd ar gael drwy gydol y sioe.
Addas i’r teulu cyfan