Ceramica Botanica

Sad 27 Ebr 2024 10:48yh - 10:48yh Am ddim gyda mynediad

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Chrochenwyr De Cymru yn cynnal penwythnos dathlu clai gyda gweithdai, arddangosfeydd a mwy.

Bydd ymwelwyr â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cael cyfle prin i gwrdd â rhai o seramegwyr mwyaf dawnus De Cymru ym mis Mehefin, wrth i dros 25 o grochenwyr ymgynnull i arddangos eu gwaith yn y Tŷ Gwydr Mawr eiconig.

Trefnir Ceramica Botanica gan Grochenwyr De Cymru – grŵp o dros 350 o seramegwyr o bob rhan o dde Cymru – ac mae’n cynnig cyfle unigryw i weld crochenwyr o bob rhan o dde Cymru wrth iddynt ymgynnull am un penwythnos yn unig.

Gyda’r gyfres ddiweddaraf o The Great Pottery Throwdown wedi rhoi’r sylw unwaith eto i grochenwaith, mae mwy o bobl nag erioed yn ymddiddori mewn clai. Mae Ceramica Botanica yn cyflwyno’r cyfle perffaith i archwilio popeth sydd gan gelfyddyd serameg i’w gynnig, wrth i grochenwyr gwadd rannu eu sgiliau a chynnal gweithdai galw-heibio drwy gydol y penwythnos. Bydd ymwelwyr yn gallu gwylio arddangosiadau gan gynnwys tanio raku, yn ogystal â thechnegau gwneud ac addurno amrywiol.

Gyda gwaith y crochenwyr yn amrywio o fasys raku wedi’u tanio â nwy i fygiau porslen cain, gemwaith a mwy, mae llawer i’w weld – a bydd yr holl ddarnau sy’n cael eu harddangos hefyd ar gael i’w prynu.

Mae yna hefyd amrywiaeth o weithgareddau dros y penwythnos. Lawrlwythwch yr amserlen YMA.