Bore Gwyfynod Godidog

Maw 08 Medi 2026 10yb - 12yh
Am Ddim - Gyda Mynediad

Ymunwch â ni am Fore Gwyfynod Godidog arbennig, sy’n dathlu amrywiaeth a harddwch rhyfeddol y gwyfynod sydd i’w cael yn ein gerddi a’n cefn gwlad. 

I gyd-fynd â’r arddangosfa o wyfynod wedi’u gwnïo’n hyfryd yn arddangosfa Nature in Stitch gan Stitching Botanical, bydd Grŵp Cofnodi Gwyfynod Cadwraeth yn Yr Oriel ar gyfer sesiwn arbennig o ddal gwyfynod byw, eu hadnabod a chofnodi gwybodaeth amdanynt. 

Mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod byd cudd y gwyfynod ac i weld y creaduriaid hyn, sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, yn agos. Bydd y grŵp yn dangos sut mae gwyfynod yn cael eu dal yn ddiogel, sut i adnabod gwahanol rywogaethau a sut mae’r cofnodion hyn yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r bywyd gwyllt yn y Gerddi Botaneg. 

Bydd ymwelwyr yn gallu gweld detholiad o wyfynod byw yn agos, dysgu sut i adnabod gwahanol rywogaethau a darganfod mwy am eu rôl bwysig yn ein hecosystemau. Bydd hefyd gyfle unigryw i gymharu siapiau, patrymau a lliwiau cain y gwyfynod byw â’r gwyfynod wedi’u gwnïo sy’n rhan o arddangosfa Nature in Stitch

P’un a ydych eisoes yn frwd dros wyfynod, yn mwynhau bywyd gwyllt a natur, neu’n syml am ddarganfod rhywbeth newydd, mae’r bore anffurfiol a difyr hwn yn gyfle i weld y pryfed rhyfeddol hyn mewn ffordd hollol newydd. 

Dewch draw i gwrdd â’r gwyfynod a darganfod pa mor odidog ydyn nhw mewn gwirionedd!

 

Am ddim gyda Mynediad i’r Ardd – Dim Angen Archebu