Arddangosfa o Baentiadau gan Hazel Morris

Gwen 16 Hyd - Sul 15 Tach 2026 10yb - 4yh
Am Ddim - Gyda Mynediad

Mae Hazel yn arlunydd celfyddyd gain sy’n byw ac yn gweithio o’i stiwdio gartref yn ardal wledig Sir Benfro, De-orllewin Cymru.  

Gan weithio’n bennaf gydag olew ar gynfas, caiff ei hysbrydoli gan fryniau tonnog Cymru, yr arfordir garw a’r bythynnod hyfryd sydd i’w gweld yn y rhan hon o’r byd.  

Ar ôl astudio yng Ngholeg Sir Benfro yn 2002, aeth ymlaen i raddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Celfyddyd Gain o Goleg Celf Caerfyrddin yn 2025.  

Tra oedd yn astudio, enillodd Hazel y wobr gyntaf mewn arddangosfa celf ffigurol yn The Boundary Gallery, Gogledd Llundain. Mae hi wedi cynnal nifer o arddangosfeydd unigol a chyfunol, o Lundain i Fenis.  

  www.hazelmorrisart.co.uk  

 

 

 

Gweithdy Paentio Eich Addurniadau Nadolig Ceramig Eich Hun gyda Hazel Morris Art

Gweithdy dan arweiniad tiwtor sy’n cynnwys arddangosiad, i greu un bêl Nadolig ceramig, un addurniad siâp calon i’w hongian ac un addurniad siâp seren i’w hongian.

Gan ddefnyddio sbyngiau a haenau lliw, byddwch yn creu eich addurniadau coeden geramig arbennig eich hun.

Bydd yr holl eitemau yn cael eu gwydro a’u tanio, ac yn cael eu dychwelyd yn barod i’w casglu o’r gerddi.

 

Addas ar gyfer oedran 8+

 

https://www.eventbrite.co.uk/e/1993329609521?aff=oddtdtcreator

https://www.eventbrite.co.uk/e/1993330099988?aff=oddtdtcreator