Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o weithgareddau hwyl yn yr awyr agored, adrodd straeon ac archwilio ar gyfer plant cyn-ysgol.
Dewch draw am awr llawn hwyl o weithgareddau, crefftio, canu a llawer o hwyl.
Ar ôl cyrraedd, gofynnwch yn Y Porthdy am leoliad y sesiwn hon.
Mae lleoedd yn gyfyngedig i 12 o blant y sesiwn (dim mwy na 2 o blant i bob oedolyn – 1 tocyn = 1 plentyn).
Mae archebu lle yn hanfodol ar gyfer y sesiwn hon:
O hyn ymlaen, fydd Dydd Mercher Mwdlyd gyda ffi o £1* ar gyfer pob plentyn ac mae mynediad arferol i’r Ardd Fotaneg yn berthnasol.
*Nodwch na ellir ad-dalu’r ffi o £1.
Noder bod gennym system archebu newydd. Ar ôl archebu lle, os na allwch fynychu’r sesiwn am unrhyw reswm, a allwch anfon e-bost i angharad.phillips@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667177 i ganslo eich lle gan fod galw mawr am y sesiwn hon.
Rydym yn rhyddhau archebion ar gyfer y digwyddiad hwn yn wythnosol.