Adnabod eich Coed
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar yr ystod eang o goed brodorol a rhai coed anfrodorol a dyfir yn gyffredin. Dysgwch sut i’w hadnabod yn ôl bldoyn, ffrwyth, dail, rhisgl a siâp. Bydd y sesiwn hefyd yn ymdrin â bwytadwyedd a defnydd y coed, eu lle yn ecosystem y coetir a’r llên gwerin sy’n gysylltiedig â nhw.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10yb-4yp. £40 (£36 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd Fotaneg). Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150 neu ewch i’n tudalen Eventbrite os gwelwch yn dda.
Caiff un lle ar bob cwrs i oedolion cymhorthdal llawn a gall ymgeiswyr wneud cais i Brosiect Tyfu’r Dyfodol trwy lythyr cyfeirio gan feddyg teulu neu elusen gofrestredig i gtfadmin@gardenofwales.org.uk. Wedi’i chynnig ar sail gyntaf i’r felin.
Cwrs gan brosiect Tyfu’r Dyfodol yng Nghanolfan Crefftau’r Goedwig.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.