The Hedgerow Apothecary

£14.99

Dysgwch sut i fforio yn y cloddiau fel y meddygon llysiau gynt gyda’r canllaw gorau hwn i rai sy’n dysgu. Am ganrifoedd byddai ein cyndeidiau’n troi at natur nid yn unig am fwyd, ond hefyd i’w hiachau. Hyd heddiw mae ein hen gloddiau, ein coedlannau a’n coedwigoedd yn dal yn llawn meddyginiaethau – yn aros i gael eu darganfod.

In stock

Categori:

Disgrifiad

Dyma’r canllaw hanfodol i fwynhau rhoddion hael byd natur. Dysgwch sut i wneud cyffeithiau blasus, eli at bob clwyf, diodydd bendithiol a sut i wella annwyd gyda rhoddion byd natur fel egroes, eirin ysgaw a llysiau’r groes. Hefyd fe welwch ffotograffau i’ch helpu i nodi planhigion bwytadwy yn ddiogel a dysgu am yr hyn sydd ar gael bob tymor. Cewch arweiniad sut i baratoi a chadw’r hyn fyddwch yn ei ddarganfod. Chwedlau gwerin a hanes difyr fforio. Mae pob taith yn gyfle i ddysgu, nodi planhigion newydd, casglu rhywbeth i’w fwyta ac ailgysylltu â natur – felly ewch ati i ddechrau eich antur fforio.