Gwneud Potiau o Bapur 

£14.99

Gyda’r pecyn hwn gallwch wneud eich potiau eich hun o ddim mwy na phapurau newydd wedi’u hailgylchu! Gallwch greu nifer di-ri o botiau caled di-ddiwedd ar gyfer hadau, planhigion ifanc a rhai mwy. 

In stock

Categori:

Disgrifiad

Gyda’r pecyn hwn gallwch wneud eich potiau eich hun o ddim mwy na phapurau newydd wedi’u hailgylchu! Gallwch greu nifer di-ri o botiau caled di-ddiwedd ar gyfer hadau, planhigion ifanc a rhai mwy. 

Rholiwch ddarn o bapur yn llac o gwmpas sylindr crwn, gwthiwch un pen i mewn i lunio’r gwaelod, a defnyddiwch ddarn arall o’r pecyn i’w droi’n i’w le. Llenwch eich pot newydd â chompost ac ychwanegu eich had neu eich planhigyn ifanc. Pan fydd y planhigyn wedi tyfu, gallwch ei blannu’n syth yn y pridd heb orfod ei dynnu allan o’r pot a tharfu ar y gwraidd. Bydd y pot yn prydu’n naturiol. Mae cyfarwyddiadau llawn yn y blwch.

Mae’r set hon yn gwneud tri maint gwahanol o bot: 3cm, 4.75cm a 6cm ar draws, delfrydol i roi cychwyn da i’r rhan fwyaf o blanhigion ifanc – i gyd heb blastig. 

Mae’r pecyn gwneud potiau wedi’i wneud o bren FSC ac mae’n ddelfrydol i unrhyw arddwr sy’n ceisio lleihau dibyniaeth ar blastig o gwmpas yr ardd. Mae hefyd yn rhodd ddefnyddiol a derbyniol i unrhyw arddwr.