The perfect present

Dychmygwch anrheg Nadolig, penblwydd neu benblwydd priodas y gallwch ei defnyddio bob diwrnod o’r flwyddyn.

Beth allai fod yn well ar gyfer y ffrind, perthynas neu aelod o’r teulu anodd-i’w-brynu-iddo hwnnw nac anrheg anarferol, hyfryd, sy’n newid yn barhaus, na fydd e byth yn ei hanghofio?

Felly, pam na wnewch chi aelodaeth o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn anrheg arbennig eleni?

Bydd aelod o’r Ardd Fotaneg yn mwynhau mynediad am ddim i ardd gorau a mwyaf Cymru gydol y flwyddyn;  mynediad am ddim i lu o erddi eraill ar draws y DG; disgownt o 10% yn ein Siop Roddion; gwahoddiad i’n Diwrnod Aelodau; ynghyd â mynediad i lawer iawn o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yma; ac, wrth gwrs, eich cylchgrawn i aelodau.

Pam na wnewch chi’r Ardd yn anrheg i’r person arbennig hwnnw; aelodaeth yw’r anrheg sy’n parhau i fod yn anrheg trwy gydol y flwyddyn.

Er mwyn prynu’ch aelodaeth, galwch ein swyddog aelodaeth, Jane Down, ar 01558 667118, neu e-bostiwch membership@gardenofwales.org.uk